– Senedd Cymru am 6:26 pm ar 18 Hydref 2017.
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Bethan Jenkins—[Torri ar draws.] Os ydych yn gadael y Siambr, a wnewch chi hynny’n gyflym ac yn dawel, os gwelwch yn dda? Os nad ydych yn gadael, eisteddwch. Diolch. Mae’n ddrwg gennyf, Bethan. Galwaf yn awr ar Bethan Jenkins i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis. Bethan.
Diolch. Rwyf wedi rhoi munud i Angela Burns.
Wrth nesáu at y ddadl hon, a meddwl am y materion y mae’n eu codi, gan gynnwys hawliau cleifion, sut yr ydym yn cefnogi ac yn credu gair pobl sydd wedi dioddef troseddau neu gam-drin yn y GIG, sut yr ydym yn diogelu yn erbyn digwyddiadau yn y dyfodol, a sut y mae’r GIG yn ymdrin â phroblemau a digwyddiadau mawr pan fyddant yn codi, roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig defnyddio digwyddiadau cyfredol fel prism ar gyfer edrych ar y problemau hyn.
Mae achos Kris Wade, wrth gwrs, yn un y bydd pobl yma’n gwybod fod gennyf ddiddordeb arbennig ynddo, nid yn unig oherwydd bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn fy rhanbarth i, ond mae gennyf ddiddordeb ynddo am fod yr achos wedi dangos yn glir, er gwaethaf yr adolygiad a’r addewidion a’r sicrwydd, fod Cymru’n dal i fod mewn sefyllfa lle y mae bwrdd iechyd mawr unwaith eto wedi methu cyflawni’r disgwyliadau sydd gan bobl o’u GIG, ac yn fwy sylfaenol, mae menywod wedi cael cam—dioddefwyr cam-drin rhywiol—drwy gael rheibiwr rhywiol mewn amgylchedd honedig ddiogel.
Mae’n rhaid i mi gofnodi’r achos hwn, cael trafodaeth briodol am y peth, ac asesu beth a aeth o’i le a’r materion sydd wedi codi o ganlyniad i hynny. Roedd y ‘Desktop Review Lessons Learned Report’, a gyhoeddwyd gan PABM ym mis Awst, yn croesddweud ei hun braidd. Rwy’n credu y byddem yn cytuno, er mwyn i adolygiad priodol o ddigwyddiad mawr fod yn drylwyr, ac i ddangos bod gwersi wedi cael eu dysgu mewn gwirionedd, buasai adolygiad o’r fath yn cydnabod difrifoldeb sefyllfa fel yr un sy’n cael ei thrafod cyn unrhyw beth arall. Ond mewn gwirionedd, yr hyn a welsom oedd rhywbeth hollol wahanol. Roedd yr adroddiad ei hun yn hwyr ac ni chafwyd esboniad am hynny. Cawsom ein hysbysu i gychwyn y byddai’r adolygiad yn barod ym mis Ionawr. Ni chafodd ei gyhoeddi tan fis Awst. Ni roddwyd unrhyw eglurhad am hyn. Ni chafwyd yr adolygiad dan arweiniad y prif weithredwr blaenorol, Paul Roberts, ac yn lle hynny cyhoeddwyd adolygiad bwrdd gwaith gyda gwaith awduron wedi’i olygu—yn wahanol iawn i’r broses drylwyr ac eang yr oedd y mater yn ei haeddu ac a oedd yn ddisgwyliedig. Cefais wybod bod sawl cais gan feddyg ymgynghorol a chyn-gyfarwyddwr clinigol i roi tystiolaeth i’r adolygiad bwrdd gwaith wedi cael eu gwrthod dro ar ôl tro. Daeth yr adroddiad i gasgliadau heb unrhyw sail iddynt, fel yr honiad nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng y methiant i erlyn neu ddiswyddo Mr Wade a llofruddiaeth Christine James. Mae hyn yn rhywbeth y mae eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wedi ei ailadrodd yn anffodus. Sut y gellir gwneud yr honiad hwn yn bendant pan fo Mr Wade yn amlwg wedi cyflawni cyfres o ymosodiadau rhywiol yn erbyn menywod agored i niwed, gweithredoedd ymosodol a gydnabyddir yn aml fel ymddygiadau sy’n rhagflaenu troseddau mwy difrifol? Ym marn llawer, gan gynnwys rhai safbwyntiau o fyd y gyfraith, ceir cyswllt achosol rhwng methiant i erlyn a’r ffaith nad oedd Mr Wade wedi wynebu unrhyw gamau cyfreithiol ar yr adeg y llofruddiodd Christine James.
Ychydig iawn o wybodaeth a oedd ar gael ynglŷn â sut y daeth Mr Wade i gael ei gyflogi fel gweithiwr cymorth iechyd, gan weithio gyda phobl agored i niwed, yn y lle cyntaf. Dechreuodd Mr Wade gyda’r awdurdod rhagflaenol, Bro Morgannwg, fel technegydd technoleg gwybodaeth. Nid oedd yn ddarostyngedig i unrhyw wiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol uwch ychwaith, sy’n ofyniad ar gyfer y rôl yr oedd yn gyflogedig ynddi’n ddiweddarach, ac yn arswydus, mae PABM wedi dweud wrth fy staff, a staff ACau eraill hefyd, fod ganddynt wiriadau Swyddfa Cofnodion Troseddol eraill heb eu gwneud ar staff presennol.
Mae’r adroddiad yn osgoi sôn am unrhyw wrthdaro buddiannau posibl yn sgil nepotiaeth ymhlith rheolwyr PABM. Mae’n dweud yn syml nad yw’r pwynt nac yma nac acw. Methodd ddod i gasgliadau y naill ffordd neu’r llall. Nid oedd hyn yn fy nharo i’n ddigon da ar y pryd, ac mae’n agwedd ar hyn sy’n haeddu mwy o sylw. Câi Kris Wade ei gyflogi, wedi’r cyfan, fel gweithiwr cymorth iechyd yn y gwasanaeth anableddau dysgu heb y gwiriadau gorfodol, pan oedd ei dad, Steven Wade, yn gyfarwyddwr clinigol gyda chyfrifoldeb am y gwasanaeth. Un o rannau mwyaf allweddol yr achos hwn, ac un na roddwyd fawr o sylw iddi o gwbl yn yr adolygiad, oedd pam na chafodd Mr Wade ei ddiswyddo’n gynt. Pam fod cymaint o oedi a gwrandawiadau disgyblu ynglŷn â’i weithredoedd pan oedd honiadau wedi dod gan dri o bobl? Cyfrifoldeb uniongyrchol PABM yw hyn, ac mae cyfrifoldeb clir i’w gymryd a gwersi i’w deall o ran diogelu wrth inni symud ymlaen.
Er ei fod yn frawychus, mae yna risg sydd wedi ei chydnabod o fewn y GIG o gam-drin pobl sy’n agored i niwed, yn enwedig menywod. Yn wir, mae Rowan House ar safle Ysbyty Trelái, lle y cynhaliwyd yr ymchwiliad i fethiannau i ofalu am gleifion mewn perthynas â phobl ag anableddau dysgu yn 1969. Digwyddodd achos Kris Wade o dan y bwrdd iechyd lle’r oedd safonau gofal yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi bod yn destun ymchwiliad annibynnol ac adroddiad Andrews, ‘Ymddiried mewn gofal’, yn sgil hynny ac roedd digwyddiadau tebyg wedi digwydd yn ei wasanaethau iechyd meddwl. Mae PABM wedi cydnabod ei fethiannau i ofalu am bobl ag anableddau dysgu yn achos trasig Paul Ridd. Hyd yn oed heb yr enghreifftiau lleol, dylai’r methiannau a’r cam-drin a welwyd mewn byrddau iechyd eraill ledled y DU ac mewn cyfleusterau gofal fod wedi bod yn rhybudd clir i’r bwrdd iechyd fod o ddifrif ynghylch honiadau o’r math hwn, fod yn rhaid pwyso a mesur cyflogaeth mewn achosion o’r math hwn, yn erbyn risg, ac roedd risg glir a phatrwm yn datblygu gyda’r achos hwn.
Roedd y problemau llywodraethu yn PABM wedi eu hepgor o’r adolygiad hefyd. Dywedodd cyn-feddyg ymgynghorol o PABM y cyfarfûm ag ef wrthyf, ‘Roeddwn i’n bersonol wedi mynegi pryderon wrth y cyfarwyddwr meddygol yn 2012 yn dilyn yr ail honiad o gamdriniaeth a’i oblygiadau wedi’u cydnabod. Cafodd pryderon ynglŷn â llywodraethiant ac arweinyddiaeth y cyfarwyddwr eu hamlygu mewn adolygiadau mewnol o lywodraethiant a pherfformiad, ond ni weithredwyd arnynt. A chafodd ystod gynhwysfawr o bryderon a godwyd gennyf fi ac eraill am fethiannau llywodraethu a gweithredoedd y cyfarwyddwr clinigol naill ai eu hanwybyddu neu, yn fwy gweithredol, eu mygu gan weithrediaeth y bwrdd iechyd.’ Mae’n amlwg fod cyhuddiadau mawr i’w gwneud yma, ac ni chafodd y rheini sylw yn yr adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd, i raddau helaeth oherwydd bod ei geisiadau i gyflwyno tystiolaeth wedi cael eu gwrthod. Mae’n mynd ymlaen i ddweud, ‘Roedd y diwylliant o fewn bwrdd iechyd PABM yn rhoi rhwydd hynt i’r cyfarwyddwr clinigol redeg gwasanaeth ynysig, heb oruchwyliaeth briodol, a oedd yn gweithredu heb arferion llywodraethu safonol.’ Ni all hyn fod yn dderbyniol.
Yn amlwg, er nad oedd yn rhan o’r adolygiad bwrdd gwaith, mae llywodraethu yn y bwrdd iechyd yn fater allweddol yma. Ni fu unrhyw atebolrwydd neu gyfrifoldeb clir gan y rheolwyr am yr hyn a ddigwyddodd ac ni chafwyd ymddiheuriad ffurfiol. Bu’n rhaid i ddioddefwyr Kris Wade gael gwybod oddi ar y teledu fod yr adroddiad bwrdd gwaith wedi ei ryddhau hyd yn oed. Mae’n ymddygiad ofnadwy ar ran PABM. Yn ddiweddar, dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain na ddylai’r bwrdd iechyd gael yr hawl i adolygu eu hunain, ac rwy’n meddwl bod Angela Burns wedi dweud rhywbeth tebyg, ac rwy’n dyfynnu,
Disgrifiodd Adroddiad Francis yr effeithiau trychinebus yn glir pan nad ymdrinnir â phryderon yn effeithiol, ac ar ôl Francis, credwn ei bod yn annerbyniol i fwrdd iechyd ymchwilio pryderon difrifol ynglŷn â’i hunan.
Daw’n hollol glir o’r achos hwn, ac o’r adolygiad bwrdd gwaith, fod angen cael fframwaith gwell a mwy cadarn ar waith er mwyn goruchwylio rheolwyr y byrddau iechyd. Pe bai meddyg yn gwneud camgymeriad difrifol neu nifer ohonynt, ceir cyrff disgyblu proffesiynol a fyddai ag awdurdod i ymdrin ag unrhyw un o’r achosion hyn, ond nid oes unrhyw gorff o’r fath yn bodoli yn achos methiannau’n ymwneud â chyfrifoldeb ar ran rheolwyr. Ni all y byrddau barhau i osgoi cael eu cosbi am hyn. Rhaid eu dwyn i gyfrif. Er na allwn ddweud yn bendant na fydd yr hyn a ddigwyddodd yn achos Kris Wade byth yn digwydd eto, yn anffodus, mae’n debygol y ceir honiadau o gam-drin a throseddau a gyflawnir yn erbyn cleifion yn y dyfodol. Felly, mae’n rhaid inni baratoi byrddau iechyd a’r GIG i ymdrin â digwyddiadau’n fwy effeithiol ac yn fwy amserol na’r hyn a ddaeth yn amlwg yn ystod y digwyddiadau diweddar.
Rwy’n credu bod yn rhaid i’r heddlu ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn a ddigwyddodd yn achos Kris Wade. Nid yw’n fater i Ysgrifennydd y Cabinet, ond dylai fod ymchwiliad mor drylwyr â phosibl yn yr asesiad sydd ar y ffordd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynglŷn â pham na chafwyd cyhuddiad gan yr heddlu ar y cychwyn mewn perthynas â’r honiad cyntaf, a pham na chafwyd cyhuddiad gan Wasanaeth Erlyn y Goron mewn perthynas â honiad diweddarach. Mae cwestiwn i’w ateb hefyd ynglŷn â pham, yn un o’r honiadau, y cofnododd yr heddlu fod trosedd wedi cael ei chyflawni, ac eto ni chafwyd cyhuddiad mewn perthynas â hi.
Dywedodd Alan Collins, cyfreithiwr a gynrychiolai un o’r dioddefwyr yn achos Wade, wrthyf: ‘Mae diffyg gweithredu ar ran yr heddlu yn bryder ynddo’i hun. Nid wyf o reidrwydd yn beirniadu’r heddlu, oherwydd nid oes yr un ohonom yn gwybod mewn gwirionedd pam na chafodd Wade ei erlyn am y tri ymosodiad rhywiol, a hynny am nad yw’r wybodaeth yn gyhoeddus.’ Ar ben hynny, roedd awduron yr adolygiad yn y tywyllwch hefyd. Y ffaith yw bod tri o gleifion agored i niwed wedi dioddef ymosodiad rhywiol gan ddyn a oedd yn peri risg ddifrifol i fenywod. Aeth yn ei flaen i ladd. Mae gan y cyhoedd hawl i wybod pam na chafodd y dyn hwn ei erlyn am y tri ymosodiad. Yn amlwg, ar yr olwg gyntaf, credai’r heddlu fod troseddau wedi cael eu cyflawni. Mae gan y dioddefwyr a’r cyhoedd hawl i wybod pam y cafodd y dyn peryglus hwn—gan mai dyna ydoedd—ei gyflogi mewn gwasanaeth cyhoeddus a pham na chafodd ei erlyn. Mae gennym hawl i ofyn hefyd: a oes gwersi i’w dysgu o’r hyn a wyddom? Er enghraifft, a fyddai’r heddlu’n trin yr achosion hyn yn wahanol pe baent yn cael gwybod amdanynt heddiw?
Buaswn yn gobeithio y cefnogwch fy ngalwad ar AGIC i ymchwilio’r mater hwn sy’n ymwneud â’r heddlu yn drylwyr, a’u bod yn cydweithredu’n llawn. Bydd adroddiad AGIC yn ganolog wrth gwrs, a bydd yn sefyll fel prawf ynglŷn ag a allwn fod â ffydd yn yr adolygiad a’r prosesau goruchwylio sydd gennym ar hyn o bryd ai peidio. Rwyf wedi cyfarfod ag AGIC, a chefais fy sicrhau, i raddau, yr edrychir ar yr achos yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, mae i ba raddau y gellir galw tystion a mynnu tystiolaeth o’r tu allan i’r bwrdd iechyd, neu gan rai nad ydynt bellach yn cael eu cyflogi gan y GIG, yn parhau i fod yn ansicr, a buaswn yn gadael yn agored yr opsiwn i alw am ymchwiliad annibynnol llawn o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 yn y dyfodol os bydd angen.
Yn fwy cyffredinol, buaswn yn gobeithio gweld ymddiheuriad priodol a gostyngedig gan y byrddau iechyd ar ôl y digwyddiadau hyn. Buaswn yn gobeithio y bydd AGIC yn ymchwilio i strwythurau rheoli’r byrddau iechyd yn llawn a sut y maent yn gweithio ar draws Cymru, yn enwedig atebolrwydd a phwy sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb pan fo’n amlwg fod digwyddiad i fod yn gyfrifol amdano; sut y mae byrddau iechyd yn ymdopi â digwyddiadau mawr; a beth sy’n digwydd os nad yw gweithdrefnau diogelu’n cael eu dilyn, neu eu bod wedi methu. Mae angen gwneud ymchwiliadau ynglŷn â sut y cawn well trosolwg o strwythurau rheoli’r GIG, gan gydnabod nad meddygon yn unig sy’n gwneud penderfyniadau sy’n cael effaith real a pharhaol ar glaf neu ddefnyddiwr y GIG.
I mi, un o’r agweddau mwyaf negyddol a ddaeth yn glir o ganlyniad i’r achos hwn yw ei bod yn amlwg fod diwylliant o gyfrinachedd mewn rhai rhannau o’r GIG lle y mae angen taflu goleuni arnynt. Ceir tuedd anffodus mewn rhai rhannau o’r GIG i ymateb i ddigwyddiad mawr, neu nifer ohonynt, drwy godi’r baricadau a chuddio, yn hytrach nag agor drysau a phenderfynu darganfod beth aeth o’i le mewn modd agored a thryloyw. Buaswn yn gobeithio y bydd AGIC a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd yn ddiwyd i symud ymlaen i ddatrys y problemau hyn unwaith ac am byth.
Hoffwn orffen gyda dyfyniad gan feddyg ymgynghorol o PABM a ddywedodd wrthyf, a dyfynnaf: ‘Mae’r gwersi sydd i’w dysgu yn berthnasol nid yn unig i PABM, ond i bob bwrdd iechyd arall. Yn gryno, ni ellir dysgu gwersi os yw’r GIG yng Nghymru yn gwrthod mynd i’r dosbarth.’ Rwy’n gobeithio, wrth symud ymlaen, nad dyma fel y bydd hi ac y bydd dioddefwyr a’u teuluoedd yn cael y cyfiawnder y maent yn ei haeddu. Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn ddiolch i Bethan Jenkins am gyflwyno’r ddadl hon ar ddiogelu a hawliau cleifion yn y GIG yng Nghymru. A’r rheswm pam rwy’n awyddus i gyfrannu oedd fy mod wedi cyflwyno dadl fer ym mis Ionawr 2012 ag iddi’r teitl ‘A oes cyfrifoldeb moesol ar Lywodraeth Cymru i geisio gwarchod y rheini sy’n chwythu’r chwiban ym mhob agwedd ar fywyd?’ Oherwydd un o’r digwyddiadau—ac fe siaradoch yn benodol am achos Kris Wade—yw bod pobl yno a oedd yn ceisio chwythu’r chwiban, ac ni allent ac ni wnaethant. Y cwestiwn yw: pam?
Pan godais hyn o’r blaen, sicrhaodd y Gweinidog a ymatebodd i mi ar y pryd, sy’n arweinydd y tŷ bellach, fod yna ganllawiau ysgrifenedig wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru i ymddiriedolaethau’r GIG yn ei gwneud yn ofynnol i bob un ddatblygu ei pholisi chwythu’r chwiban ei hun a bod asesiad strwythuredig o gyrff y GIG wedi cael ei gynnal gan Swyddfa Archwilio Cymru, i geisio sicrwydd ar lefel uchel fod polisïau chwythu’r chwiban a chanllawiau i staff ar waith. Y rheswm y teimlaf mor gryf am hyn yw’r ffaith na weithiodd chwythu’r chwiban yn yr achos hwn. Ym Mhowys, fel y soniwyd gennym yn gynharach, fe geisiodd pobl chwythu’r chwiban, ac ni weithiodd hynny. Ac ar hyn o bryd, rwy’n cael fy ngheryddu gan fwrdd iechyd mawr oherwydd bod rhywun wedi ceisio chwythu’r chwiban, wedi cael eu rhoi yn eu lle gan y bwrdd iechyd, cyn dod ataf fi wedyn, ac rwyf wedi mynegi’r pryderon hynny. Mae gennyf lythyr—ac fe’i rhannaf, nid wyf am godi cywilydd arnynt yn gyhoeddus, ond rwy’n hapus i’w rannu gyda chi, Gweinidog—sy’n dweud wrthyf, yn y bôn, am nad ydynt wedi mynd drwy’r polisi, y weithdrefn, yna hen dro ond dyna ni. Y rheswm na all pobl chwythu’r chwiban yw oherwydd eu bod yn ofni gwneud hynny. Y rheswm nad ydynt yn chwythu’r chwiban yw bod arnynt ofn eu bod yn mynd i golli eu swyddi neu fod eu bywydau’n mynd i gael eu gwneud yn artaith. A phan fydd pobl dda yn cerdded heibio a gwneud dim, mae’n caniatáu i bethau fel digwyddiad Kris Wade i basio, i ddigwydd heb gael cosb briodol.
Mae’n rhaid i ni ddechrau cael system gadarn yn ei lle y bydd pawb yn y GIG a chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill yn glynu ati’n llwyr o ran gallu tynnu sylw at rywbeth y maent yn teimlo ei fod yn foesol neu’n ffeithiol anghywir, a bod ganddynt reolwr sydd y tu allan i’r system honno, yn edrych arno ac yn ei archwilio, ac yn anad dim, rhywun—ac rwy’n gwybod fy mod yn diystyru’r holl bobl faleisus, ac nid oes llawer ohonynt—
Ac rydych yn mynd i ddirwyn i ben yn awr, gan eich bod wedi mynd ymhell dros eich munud.
Mae’n ddrwg gennyf.
Na, na, mae’n iawn.
Ond dylai’r bobl hyn gael yr hawl honno, oherwydd hebddynt hwy i gadw llygad ar ein gwasanaethau cyhoeddus, bydd gennym fwy o’r achosion ofnadwy hyn yn y dyfodol.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl. Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl heddiw, sydd wrth gwrs yn fater pwysig a difrifol yn gyffredinol i’r holl Aelodau ym mhob plaid a phob un o’r etholwyr yr ydym yma i’w gwasanaethu.
Credaf fod yna gefnogaeth drawsbleidiol ddilys i sicrhau bod pob claf sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn cael gofal diogel o ansawdd uchel ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed. Mae llawer o’r hyn yr ydym yn ei drafod yn y lle hwn yn ymwneud â phan nad yw hynny’n digwydd. Wrth gwrs natur ein busnes yw ein bod yn llai tebygol o siarad am bethau pan fo pethau’n mynd yn iawn, ond i siarad mewn gwirionedd am y pethau sydd wedi mynd o’i le a cheisio deall pam.
I gleifion, dyna pam yr ydym wedi rhoi’r broses Gweithio i Wella ar waith, i integreiddio’r rheini, i geisio sicrhau y caiff y materion hynny eu harchwilio a’u hunioni. Rydym am weld un dull integredig i’w gwneud yn haws i bobl leisio pryderon a darparu canlyniadau teg i unigolion a’i fod yn gyson o ran y ffordd y caiff pobl eu trin. Wrth wneud hynny, rydym yn disgwyl gwneud y defnydd gorau o’n hamser a’n hadnoddau, a sicrhau bod pobl o ddifrif yn dysgu gwersi lle y mae pethau’n mynd o chwith.
Gallai a dylai pryderon a chwynion gael eu lleisio gan gleifion, staff ac aelodau o’r cyhoedd, a dylai pawb sy’n eu lleisio gael cymorth yn ystod y broses. Beth bynnag yw’r broses sydd gennym ar waith, rwy’n cydnabod y bydd yna bob amser elfen o gamgymeriad dynol yn rhan o hynny. O fewn y GIG yng Nghymru, dylai staff gael eu trin ag urddas a pharch, yn unol â’n polisïau sefydledig. Mae’n rhaid i holl sefydliadau’r GIG, fel cyflogwyr, roi camau ar waith i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon a godir gan staff mewn modd prydlon ac amserol. Ceir gweithdrefn Cymru gyfan i staff y GIG allu lleisio pryderon, fel y cytunwyd mewn partneriaeth â fforwm partneriaeth Cymru, a chaiff ei hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn addas at y diben.
Ni ddylwn ymateb yn uniongyrchol i rai o’r pwyntiau a wnaeth Angela Burns oherwydd yn fy mywyd blaenorol, pan oeddwn yn gyfreithiwr cyflogaeth, ceir her i’r hawliau sydd gan bobl mewn theori ac yn y gyfraith ac mewn gwirionedd y rhan wirioneddol anodd o sut yr ydych yn mynnu’r hawliau hynny yn ymarferol. Oherwydd hyd yn oed mewn sefydliad fel y GIG, ac mae’n fraint i godi ar fy nhraed a bod yn Weinidog y gwasanaeth iechyd, ond ymysg yr oddeutu 76,000 o staff, credwn fod yna amherffeithrwydd. Mae yna adegau pan fydd pobl yn gwneud camgymeriadau ac mae yna adegau pan fydd pobl nid yn unig yn gwneud camgymeriadau, ond mewn gwirionedd mae ychydig yn fwy bwriadol. Nid yw hynny’n ymosodiad ar y gwasanaeth; mae’n fater o gydnabod, mewn gwasanaeth dynol, y bydd hynny’n digwydd.
Ein her go iawn yw sut y cefnogwn bobl yn ymarferol, oherwydd rydym yn gofyn i bobl godi eu pennau uwchben y parapet, ac nid yw hynny bob amser yn hawdd. Mae gennyf bob amser ddiddordeb mewn deall pan fydd rhywun yn mynegi pryder neu gŵyn, efallai na fydd bob amser yn rhywbeth lle y ceir ymchwiliad llawn, ond ni ddylent ddioddef niwed o wneud hynny. Mae honno’n her sy’n ymwneud â’r rhan ddiwylliannol a’r weledigaeth a’r gwerthoedd. Dyna pam y gwnaethom lawer o waith gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ar y weledigaeth a’r gwerthoedd ar gyfer y gwasanaeth, ac mae hynny’n dal i fod mor berthnasol yn awr â phan gyflwynwyd ac y cytunwyd ar y gwaith hwnnw gennym mewn gwirionedd.
I blant ac oedolion sy’n agored i niwed, mae’r GIG wedi bod wrthi’n gwella ei ddulliau yn y blynyddoedd diwethaf. Mae’r tîm diogelu cenedlaethol yn gweithio ar draws y GIG yng Nghymru gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i helpu gyda’r ddarpariaeth leol mewn byrddau iechyd, yn ogystal, wrth gwrs, â’n byrddau rhanbarthol diogelu plant ac oedolion, lle y mae gweithwyr proffesiynol dynodedig yn darparu ffynhonnell o gyngor iechyd annibynnol, arbenigol o bersbectif Cymru gyfan. Yn ogystal, ceir rhwydwaith diogelu GIG Cymru sy’n cysylltu sefydliadau ar draws GIG Cymru i geisio creu amgylchedd cydweithredol er mwyn adnabod materion cyffredin, datblygu atebion, a chyrraedd safonau gofal iechyd sy’n diogelu lles plant ac oedolion mewn perygl yn well. Yn ganolog iddo mae’r gwerthusiad o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau ac ymyriadau diogelu plant ac oedolion, yn ogystal â cheisio lleihau amrywiadau mewn ymarfer yn y GIG. Enghreifftiau o’r hyn y mae’r rhwydwaith wedi ei wneud eisoes yw fframwaith ansawdd a chanlyniadau GIG Cymru ar gyfer diogelu plant, strategaeth atal camfanteisio’n rhywiol ar blant a’r cynllun gweithredu ar gyfer GIG Cymru, a safonau ansawdd ar gyfer rolau cynghorwyr meddygol ym maes mabwysiadu a maethu, a hefyd mae gennym lwybr clinigol ar gyfer Cymru gyfan ar anffurfio organau cenhedlu benywod, gan feddwl am yr ystod o feysydd lle y daeth pobl i mewn i’n gwasanaeth. Ac wrth gwrs, rhan allweddol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a basiwyd yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, oedd sefydlu bwrdd diogelu cenedlaethol annibynnol newydd, sy’n cael ei gadeirio bellach gan Dr Margaret Flynn. A’u gwaith fel bwrdd yw cynghori Gweinidogion Cymru ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau diogelu ar draws Cymru. Nid wyf yn credu y byddwn byth mewn sefyllfa lle y gallwn ddweud bod popeth yn berffaith. Bydd angen adolygu ein gweithdrefnau a’n harferion bob amser, er mwyn deall a oes gennym y system orau sy’n bosibl ar waith, ac yn yr un modd, a oes gennym bobl yn eu lle i wneud hynny.
Dof at y pwyntiau a nododd Bethan Jenkins yn benodol am yr achos unigol dan sylw. Ac nid her mewn perthynas â chwythu’r chwiban yn unig sydd yma, ond yn yr achos penodol hwn, gyda’r tri honiad blaenorol, yn anffodus mae’n ymddangos ei bod yn wir na chafodd yr achwynwyr hynny eu hystyried yn ddibynadwy. Ac mae honno’n broblem fawr inni yn ein system. Ni ddylai fod yn wir fod pobl agored i niwed, boed yn blant neu’n oedolion, yn cael eu gweld fel rhai sy’n gynhenid annibynadwy. Ac mae honno’n broblem. Ond fe gyfeiriodd y bwrdd iechyd yr honiadau’n ddiymdroi at y system cyfiawnder troseddol er hynny. Fe ymchwiliodd yr heddlu. Ac ar bob un o’r achlysuron hynny, penderfynodd y system cyfiawnder troseddol beidio â bwrw ymlaen. Mae honno’n broblem i ni ei deall. Ond yn adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, nid oes ganddynt bwerau i fynd i ymchwilio i’r hyn a wnaeth y system cyfiawnder troseddol. Yr hyn sydd angen i ni sicrhau ein hunain yn ei gylch, gyda’n cyfrifoldebau, o ran y camau gweithredu a roddwyd ar waith, yw pa wersi sydd yno i’w dysgu, ac edrych i’r dyfodol mewn perthynas â beth arall sydd angen ei ddysgu ar gyfer pobl eraill. Bydd yna bobl yn ein gwasanaeth, yn anffodus, sydd mewn sefyllfa lle nad ydynt wedi ymddwyn fel y byddem wedi dymuno iddynt wneud o gwmpas pobl yn eu gofal. Mae hynny’n rhywbeth y mae angen inni gael adolygiad AGIC annibynnol yn ei gylch, ond wrth gwrs, rwy’n disgwyl iddynt gael sgwrs gyda’r system cyfiawnder troseddol am yr hyn a ddigwyddodd yn yr achos hwn, ac yn bendant mae gwersi i’w dysgu gan y system cyfiawnder troseddol o achos Kris Wade hefyd.
Ond rwy’n anghytuno â Bethan Jenkins a nifer o bobl eraill ar y farn eglur na ddylai byrddau iechyd ymchwilio i bryderon difrifol. Rwy’n credu bod yn rhaid i fyrddau iechyd ymchwilio i bryderon difrifol lle y mae ganddynt gyfrifoldeb. Bydd yna bob amser her ynglŷn â phryd y mae’n briodol, felly, i gael adolygiad annibynnol yn ogystal, gan ein bod yn disgwyl i’r byrddau iechyd edrych ar bryderon difrifol, ac maent eisoes yn gwneud hynny. Cawn adroddiadau ombwdsmyn yn rheolaidd, ble y maent yn edrych ar yr hyn y mae’r bwrdd iechyd wedi gwneud, ac mewn rhai o’r rheini, nid ydynt bob amser yn cael pethau’n iawn. Maent yn dal i fod angen y broses hon ynglŷn â deall yr hyn y maent wedi ei wneud, a dysgu a gwella’n briodol. Ac yn yr achos hwn, rydym wedi penderfynu y dylid cynnal adolygiad annibynnol, a dyna pam yr ydym wedi gofyn i AGIC gynnal yr adolygiad hwnnw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe gymeraf ymyriad.
Ar yr adroddiad penodol hwn, fodd bynnag, cafodd yr awduron eu golygu. Rydym yn cael adolygiad mewnol ac nid ydym yn gwybod pwy sydd wedi ei ysgrifennu mewn gwirionedd. Felly, mae’n anodd iawn bod â ffydd mewn system lle na allwn graffu’n iawn arni, a lle na chymerodd yr adroddiad hwnnw dystiolaeth gan y rhai a oedd am roi tystiolaeth. Sut y gallwch fod yn sicr y bydd hynny’n digwydd, os yw byrddau iechyd yn ymchwilio eu hunain?
Rwy’n deall y pwyntiau a godwyd am bobl a ble y cymerwyd y dystiolaeth, gan mai adolygiad bwrdd gwaith ydoedd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf hefyd, cyn cwblhau’r adroddiad hwnnw, cafwyd sgwrs gydag un o’r bobl a oedd yn chwythwr chwiban. Ond fe awn drwy hynny gydag adolygiad AGIC, ac os oes angen edrych ar ein proses eto, gyda’r gwersi a fydd yn deillio o hyn, byddwn am ddysgu’r rheini. Dyna’r pwynt am fod yn agored ac yn fodlon derbyn—nad ydym yn dechrau’r adolygiad AGIC o’r pwynt fod hyn yn ymwneud ag amddiffyn y gwasanaeth. Mewn gwirionedd mae’n ymwneud â deall yr hyn sydd wedi digwydd, a deall beth y gallem ac y dylem ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.
Wrth gwrs, mae amryw o honiadau difrifol wedi eu gwneud heddiw wrth agor y ddadl hon, a’r datganiad fod Kris Wade yn amlwg wedi cyflawni cyfres o ymosodiadau rhywiol. Nid wyf mewn sefyllfa i ddweud a yw hynny’n wir. Dyna ran o’r her ynghylch rhyngweithio â’r system cyfiawnder troseddol, a’u cyfle i ymchwilio i hynny ac i ddeall beth sydd wedi digwydd. Bydd yr adolygiad AGIC yn edrych ar yr ystod o faterion drwy’r broses gyfan. Mae gennyf ddiddordeb yn yr oedi cyn datrys y materion cyflogaeth ar ôl atal o’r gwaith. Mae gennyf ddiddordeb yn y rhyngweithio rhwng gwahanol gynrychiolwyr—a oes esgus da, ai peidio—a deall beth arall y gallwn ac y dylem ei wneud. Oherwydd, o bryd i’w gilydd, pan fydd gennych rywun yn cael eu hatal o’r gwaith am amser hir, nid yw’n dda i’r sefydliad, nid yw’n dda i’r unigolion, neu’r bobl sy’n ymwneud â hynny o bosibl fel tystion.
Rydym wedi trafod achos Kris Wade o’r blaen. Rwy’n siŵr y byddwn yn gwneud hynny eto. Rwyf am ddweud yn glir, mewn ymateb i rai o’r pwyntiau eraill a godwyd mewn heriau eraill ynglŷn â’r bwrdd iechyd hwn, fy mod yn meddwl fod methiant gofal Paul Ridd yn enghraifft ddiddorol iawn, lle y mae’r teulu wedi ailymgysylltu â’r bwrdd iechyd i geisio gwella’r sefyllfa ar ôl i’r bwrdd gael ei feirniadu, ac ar ôl i ddyfarniad anffafriol difrifol gael ei wneud yn ei erbyn. Mae’n arwydd o’r ffaith bod nyrs y flwyddyn eleni’n gweithio yn y gwasanaeth anabledd dysgu o fewn y bwrdd iechyd. Mae llawer o’i gwaith mewn perthynas â’r wobr a gafodd yn deillio o’r ffaith ei bod hi wedi ymgysylltu â’r teulu hwnnw ac wedi gwrando arnynt ac mae’r bwrdd iechyd hwnnw wedi newid y ffordd y maent yn ymddwyn, yn enwedig mewn perthynas â phobl ag anableddau dysgu. Dyna enghraifft o’r natur agored yr ydym am ei hannog. Yn ddelfrydol, wrth gwrs, rydym yn awyddus i gael system lle’r ydym yn cael gwared ar y cyfle i fethiannau ddigwydd yn y lle cyntaf, ond mae’n hynod bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i ddysgu, ac yna i weithredu wedi hynny i wella’r ansawdd gofal iechyd y mae pob un ohonom yn ei ddisgwyl, nid yn unig i ni ein hunain, ond i’r holl bobl yr ydym yn eu cynrychioli.
Diolch yn fawr iawn, a dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw.