Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Heddiw, roeddwn eisiau tynnu sylw at broblem camddefnyddio cyffuriau a chamddefnyddio cyffuriau mewn mannau cyhoeddus yn arbennig. Rydym wedi cael sawl adroddiad yn y cyfryngau yn ddiweddar sy’n ymwneud â defnyddwyr cyffuriau yn chwistrellu heroin, yn weddol agored, yn ardal Butetown yng Nghaerdydd. Mae hyn hefyd yn tynnu sylw at broblem gysylltiedig nodwyddau, a all fod yn berygl gwirioneddol i blant, mater sydd wedi cael sylw yn y cyfryngau hefyd. Mae hon yn broblem nad yw wedi ei chyfyngu i Gaerdydd yn unig; mae hefyd yn broblem sy’n codi dro ar ôl tro mewn llawer o’n trefi yn y Cymoedd. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yw: a ydych yn cydnabod bod hon yn broblem fawr, a pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu’r awdurdodau perthnasol i fynd i’r afael â hi?