Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:27, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r defnydd o gyffuriau a chamddefnyddio sylweddau ar gynnydd, ond rydym yn gweld un o effeithiau diwygio lles yn cael effaith ar unigolion sy’n symud i mewn i’r gofod hwnnw. Ond gadewch i ni beidio ag anghofio bod pobl sy’n dioddef o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol neu sylweddau yn fodau dynol hefyd. Mae’n rhaid i ni feddwl yn ofalus sut y gallwn eu cefnogi trwy wneud yn siŵr ein bod yn gallu gweithredu’n briodol i’w cynorthwyo i roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol, a’u rhoi yn ôl ar y llwybr tuag at lwyddiant. Mae’n peri gofid i mi pan fyddaf yn gweld pobl yn ein cymunedau yn cymryd cyffuriau a’r cyfarpar arall a ddefnyddir i wneud eu hunain yn agored i risg. Mae’n ddyletswydd arnom i wneud yn siŵr ein bod yn gallu helpu pawb yn ein cymunedau, ni waeth beth yw eu safle mewn bywyd neu ble y maent.