Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 18 Hydref 2017.
Mae’r materion yn ymwneud â stopio a chwilio yn fater i Lywodraeth y DU a phlismona, ond mewn gwirionedd, nid wyf yn credu bod stopio a chwilio ynddo’i hun yn ddefnyddiol wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sydd angen cael eu cefnogi. Mae ein rhaglen Cefnogi Pobl, ynghyd â’n polisi ar gamddefnyddio sylweddau, wedi’u cynllunio i helpu pobl i ddychwelyd i’r hyn a fuasai’n cael ei ystyried yn ffordd o fyw normal, beth bynnag y mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd. Ond mae mynd â hwy oddi wrth y risg y maent yn ei chreu iddynt eu hunain ac eraill yn rhywbeth y dylem weithio arno’n ofalus.