Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 18 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:29, 18 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Ie, a Cefnogi Pobl, wrth gwrs, rydym yn aros i glywed beth fydd y cyllid ar gyfer hynny yn y gyllideb sydd i ddod, felly rwy’n falch eich bod wedi crybwyll Cefnogi Pobl. Ond ar fater cysylltiedig ar thema cyffuriau, a oes gennych unrhyw newyddion ynglŷn ag ymchwiliadau Llywodraeth Cymru i’r hyn a elwir yn fannau chwistrellu diogel, lle y gall defnyddwyr cyffuriau chwistrellu mewn amgylchedd dan oruchwyliaeth feddygol, ac a oes gennych unrhyw syniadau eich hun ar y mater sy’n cynnig ffordd bosibl o gael gwared ar nodwyddau oddi ar y strydoedd?