Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y byddwch yn ymwybodol, gellir cyflwyno hysbysiadau adran 21—yr hyn a elwir yn hysbysiadau troi allan ‘dim bai’—ar unrhyw adeg yn erbyn tenant nad yw wedi cael ei ddiogelu gan gontract cyfnod penodol. Gellir cyflwyno’r hysbysiad heb roi unrhyw reswm na phrawf a gall roi terfyn sydyn ar denantiaethau ac aflonyddu’n fawr ar fywydau tenantiaid. Nid yw’n syndod fod y cynnydd yn y defnydd o hysbysiadau adran 21 yn peri pryder i Shelter a sefydliadau tai a digartrefedd eraill. Gan fod hon yn ddeddfwriaeth ers cyn datganoli sy’n parhau’n gymwys yng Nghymru, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fuasai’n ystyried adolygu gweithrediad adran 21 o Ddeddf Tai 1988, ac os bydd angen, yn datgymhwyso ei ddarpariaeth yng Nghymru er mwyn cael gwared ar yr annhegwch a darparu mwy o ddiogelwch i denantiaid o’r fath?