Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 18 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Ddydd Gwener diwethaf, mynychais y gwasanaeth blynyddol wrth gofeb lofaol genedlaethol Cymru yn Senghennydd, sydd yn ward Cwm Aber yn fy etholaeth, a chefais y fraint o osod torch ar y gofeb. Cynhelir y gwasanaeth bob blwyddyn ar neu o gwmpas pen-blwydd trychineb Glofa Universal 1913—digwyddiad trasig a hawliodd fywydau 440 o ddynion a bechgyn. O ran y niferoedd a gollwyd dyma oedd—ac mae’n parhau i fod—y trychineb gwaethaf yn hanes Cymru a Phrydain. Agorwyd cofeb lofaol genedlaethol Cymru, sy’n sefyll ar y safle, yn swyddogol ar ganmlwyddiant y trychineb, ym mis Hydref 2013. Yn wir, mynychodd y Prif Weinidog ei hun y digwyddiad i ddadorchuddio’r cerflun efydd o weithiwr achub yn cynorthwyo glöwr.
Cafodd y syniad o gofeb lofaol genedlaethol Gymreig ei wireddu diolch, i raddau helaeth, i ymdrechion aruthrol Grŵp Treftadaeth Cwm Aber, band bychan o wirfoddolwyr a roddodd o’u hamser eu hunain i fynd ati i gasglu rhoddion er mwyn i’r syniad hwn allu dwyn ffrwyth. Rhoddodd Llywodraeth Cymru arian cyfatebol tuag at yr apêl codi arian, a chafwyd cyfraniadau hefyd o ffynonellau eraill, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Noddwr Grŵp Treftadaeth Cwm Aber yw’r darlledwr adnabyddus o Gymro, Roy Noble. Gwnaeth Roy lawer o waith da yn ystod yr apêl i godi arian, ac fel bob amser, roedd yn bresennol i siarad yn y gwasanaeth blynyddol ddydd Gwener diwethaf. Roedd llawer o blant ysgol lleol o Gwm Aber yn bresennol yn y gwasanaeth ddydd Gwener hefyd, a sylweddolais pa mor bwysig yw hi fod ein cenhedlaeth iau’n dysgu am dreftadaeth ddiwydiannol eu hardal, a’r pris eithaf a dalwyd gan y rhai a fentrodd allan un diwrnod i wneud eu gwaith.