Patrymau Hunangyflogaeth

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:56, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Y prynhawn yma, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar fentrau bach a chanolig, ac roedd yn bleser gennym groesawu'r Ffederasiwn Busnesau Bach i lansio ei adroddiad, 'Mynd ar eich Pen eich Hun: Deall Hunangyflogaeth yng Nghymru', a ysgrifennwyd gan yr Athro Andrew Henley a Dr Mark Lang. Ceir nifer o argymhellion i Lywodraeth ynddo, ond un o'r materion pwysicaf yn yr adroddiad yw bod y lefelau uchaf o hunangyflogaeth ym Mhowys, sef 23 y cant, a bod y lefelau isaf yn y Cymoedd gogleddol yr wyf i’n eu cynrychioli, ac eraill, sef 8.7 y cant. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud yn benodol i ysgogi a chynyddu hunangyflogaeth yn y cymunedau hynny yn y Cymoedd, ac yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a menywod?