1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Hydref 2017.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am batrymau hunangyflogaeth yng Nghymru? (OAQ51252)[R]
Mae hunangyflogaeth yn parhau i fod yn gonglfaen economi Cymru ac mae'n ganolog i'r strategaeth genedlaethol. Rydym ni’n parhau i gefnogi busnesau i gychwyn a thyfu, i fuddsoddi ac, wrth gwrs, i wella eu cyfraniad at economi Cymru.
Y prynhawn yma, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar fentrau bach a chanolig, ac roedd yn bleser gennym groesawu'r Ffederasiwn Busnesau Bach i lansio ei adroddiad, 'Mynd ar eich Pen eich Hun: Deall Hunangyflogaeth yng Nghymru', a ysgrifennwyd gan yr Athro Andrew Henley a Dr Mark Lang. Ceir nifer o argymhellion i Lywodraeth ynddo, ond un o'r materion pwysicaf yn yr adroddiad yw bod y lefelau uchaf o hunangyflogaeth ym Mhowys, sef 23 y cant, a bod y lefelau isaf yn y Cymoedd gogleddol yr wyf i’n eu cynrychioli, ac eraill, sef 8.7 y cant. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud yn benodol i ysgogi a chynyddu hunangyflogaeth yn y cymunedau hynny yn y Cymoedd, ac yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a menywod?
Yr hyn sy'n ddiddorol am yr adroddiad yw y bu tybiaeth mai’r rheswm pam mae mwy o bobl yn hunangyflogedig yw oherwydd bod amgylchiadau economaidd wedi pennu hynny— eu bod nhw wedi colli eu swyddi. Ond, mewn gwirionedd, ymddengys ei fod yn dyniad entrepreneuraidd. Mae'n awydd mewn gwirionedd i fod yn fwy entrepreneuraidd, sy'n rhywbeth yr ydym ni wedi ceisio ei annog ers llawer iawn o flynyddoedd yng Nghymru. Fel rhywun a oedd yn hunangyflogedig, yn bennaf, cyn i mi ddod i'r lle hwn, rwy’n deall rhai o'r heriau y gall hynny eu hachosi.
Sut ydym ni’n bwrw ymlaen â hyn yn y Cymoedd? Tasglu’r Cymoedd. Mae hwnnw wedi gwneud llawer o waith i weld sut y gallwn annog mwy o hunangyflogaeth. Nid wyf yn credu bod gan bobl ddiffyg dawn entrepreneuraidd yn y Cymoedd; rwy'n credu ei fod yn fater o anogaeth. Mae'n golygu gallu dweud wrth bobl, 'Gallwch chi wneud hyn. Nid oes unrhyw reswm pam na allwch chi fod yn llwyddiannus.’ Ac mae angen yr anogaeth honno ar bobl. A dyna'n union un o'r pethau y mae tasglu'r Cymoedd yn bwriadu bwrw ymlaen ag ef yn y dyfodol.
Prif Weinidog, roeddwn innau hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, a gadeiriwyd gan Hefin yn gynharach, a chlywsom sut mae Cymru wledig yn ddibynnol iawn ar gyfraniad hunangyflogaeth i’r economi. Nododd Hefin fod 23 y cant o'r rhai sydd ym Mhowys yn hunangyflogedig, ac mae hynny’n cymharu â chyfartaledd Cymru o 13 y cant. Nawr, mae adroddiad FSB Cymru wedi canfod bod y rheini sy'n hunangyflogedig yn tueddu i fod yn hŷn, ac nad yw pobl ifanc yn dilyn olion eu traed. A gaf i ofyn pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i ddeall y rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag bod yn hunangyflogedig, yng Nghymru wledig yn arbennig? Pa botensial allai bargen dwf canolbarth Cymru ei gynnig i sicrhau bod atebion lleol sy'n bodloni gofynion hunangyflogaeth yng Nghymru, yn hytrach nag ateb Cymru gyfan, efallai na fyddai’n briodol bob amser?
Rwy'n credu bod atebion rhanbarthol yn bwysig. Mae'r Aelod yn iawn i ddweud na ellir cael un ateb i bawb ledled Cymru. Pan ddaw i bobl iau, mae llawer ohono'n dechrau mewn ysgolion, yn fy marn i. Gwn fod gwaith wedi ei wneud mewn ysgolion o ran annog prosiectau entrepreneuraidd, ac wrth gwrs, y cynllun entrepreneuriaid ifanc, sydd gennym ni, a hefyd wrth gwrs, darparu'r math hwnnw o gymorth ariannol i bobl ifanc sydd ei angen arnynt. Mae gan bobl hŷn fynediad yn aml at gyfalaf mewn modd nad oes gan bobl iau, a gallant ddefnyddio'r cyfalaf hwnnw i sefydlu busnes. Sut ydym ni'n cefnogi pobl sy'n dod i mewn i fusnes? Mae Busnes Cymru yn un maes lle mae hynny'n digwydd, wrth gwrs. Bydd y banc datblygu yn gallu cynorthwyo pobl i ddod i mewn i fusnes hefyd. Gwella gallu mentrau bach a chanolig i gael mynediad at gyllid—dyna'r peth mwyaf. Gwyddom fod y banciau yn y DU wedi bod yn amharod yn hanesyddol i ddarparu cyfalaf ar gyfer mentrau sy’n cychwyn, a dyna pam yr oeddem ni ar ei hôl hi am flynyddoedd lawer iawn, sef un o'r rhesymau pam y bydd y banc datblygu yno. Gallwch chi annog pobl, ond mae angen mynediad at gyfalaf arnyn nhw i ddechrau eu busnes. Oni bai bod ganddynt gyfalaf teuluol y tu ôl iddyn nhw, mae'n rhaid bod ffordd arall o’i wneud, a dyna lle mae Busnes Cymru a lle mae Banc Datblygu Cymru yn dod i mewn.
Un o’r pethau mwyaf trawiadol sydd yn yr adroddiad yw’r ffaith yma: fod 38 y cant o gyfanswm twf swyddi yng Nghymru dros y ddeng mlynedd diwethaf i’w briodoli i’r hunangyflogedig. Dros yr un cyfnod, nid oes cynnydd net o gwbl wedi bod yn y sector tramor—hynny yw, y sector mewnfuddsoddi. Ac eto, ac rwy’n dyfynnu’r adroddiad fan hyn:
‘mae iaith llunio polisïau economaidd wedi’i sgiwio’n anferth tuag at bwysigrwydd sicrhau mewnfuddsoddiad â pherchnogaeth dramor.’
A ydy’r Prif Weinidog yn derbyn ffigurau’r FSB, ac os yw e, a ydy e’n derbyn yr angen am newid pwyslais nawr i fusnesau cynhenid a’r hunangyflogedig?
Nid wyf yn credu bod yn rhaid inni ddewis. Rwy’n cytuno. Ar un adeg, rwy’n gwybod, yn ystod cyfnod y WDA, roedd y pwyslais yn hollol ar fuddsoddiad o dramor—yn hollol. Nid oedd ots gyda nhw am fusnesau bach. Rwy’n cofio siarad â rhai o’r bobl a oedd yn gweithio i’r WDA. Bryd hynny, roedd popeth, yr holl ffocws, ar sicrhau buddsoddiad, ac ar ôl LG, daeth dim byd mawr i mewn beth bynnag. So, mae’n hollbwysig sicrhau ein bod ni’n adeiladu sylfaen hunangyflogedig yr economi. Rwy’n deall hynny. Ond, nid wyf yn credu y dylem ni wneud hynny drwy osgoi unrhyw fath o help i fusnesau sydd yn cyflogi miloedd o bobl yng Nghymru, sef Tata, sef GE, sef Airbus, sef cwmnïau fel EADS ac yn y blaen, sydd yn cyflogi llawer iawn o bobl yng Nghymru. Felly, mae’n rhaid inni ddal i bwysleisio denu buddsoddiad o dramor. Ond, nid yw hynny’n meddwl mai dim ond hynny y dylem ei wneud. Byddwn i’n dadlau bod y cydbwysedd yn iawn gyda ni, ac rydym yn moyn sicrhau bod mwy a mwy o fusnesau nid dim ond yn cael eu sefydlu yng Nghymru, ond yn tyfu. Un o’r problemau yr ydym wastad wedi’u hwynebu yw’r ffaith bod busnesau’n tyfu i lefel, ac wedyn mae’r perchnogion yn eu gwerthu. Wel, mae’n rhaid inni sicrhau bod mwy yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu tyfu’r busnesau hynny er mwyn eu bod yn gallu mynd yn fwy. I mi, dyna beth yw’r her fwyaf yn yr economi: dweud wrth bobl, ‘Peidiwch â gwerthu mas. Sefwch i mewn. Fe wnawn ni eich helpu chi i dyfu yn fwy.’