Patrymau Hunangyflogaeth

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:57, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yr hyn sy'n ddiddorol am yr adroddiad yw y bu tybiaeth mai’r rheswm pam mae mwy o bobl yn hunangyflogedig yw oherwydd bod amgylchiadau economaidd wedi pennu hynny— eu bod nhw wedi colli eu swyddi. Ond, mewn gwirionedd, ymddengys ei fod yn dyniad entrepreneuraidd. Mae'n awydd mewn gwirionedd i fod yn fwy entrepreneuraidd, sy'n rhywbeth yr ydym ni wedi ceisio ei annog ers llawer iawn o flynyddoedd yng Nghymru. Fel rhywun a oedd yn hunangyflogedig, yn bennaf, cyn i mi ddod i'r lle hwn, rwy’n deall rhai o'r heriau y gall hynny eu hachosi.

Sut ydym ni’n bwrw ymlaen â hyn yn y Cymoedd? Tasglu’r Cymoedd. Mae hwnnw wedi gwneud llawer o waith i weld sut y gallwn annog mwy o hunangyflogaeth. Nid wyf yn credu bod gan bobl ddiffyg dawn entrepreneuraidd yn y Cymoedd; rwy'n credu ei fod yn fater o anogaeth. Mae'n golygu gallu dweud wrth bobl, 'Gallwch chi wneud hyn. Nid oes unrhyw reswm pam na allwch chi fod yn llwyddiannus.’ Ac mae angen yr anogaeth honno ar bobl. A dyna'n union un o'r pethau y mae tasglu'r Cymoedd yn bwriadu bwrw ymlaen ag ef yn y dyfodol.