2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:23, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Andrew R.T. Davies. I ateb eich cwestiwn cyntaf, dim ond i egluro a diweddaru, dechreuodd y gwaith adeiladu ar ran 2 deuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yn gynnar yn 2015. Fel y dywedwyd o'r blaen, mae natur heriol y cynllun wedi golygu bod y rhaglen gwblhau wedi ei heffeithio, ac o ystyried hyn—ac rwy'n siŵr y byddwch yn croesawu hyn—mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorchymyn cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r rhaglen a’r gost ar gyfer y prosiect. Disgwylir i'r broses hon gael ei chwblhau yn fuan, ond mae e'n hapus i ysgrifennu at yr Aelodau i roi rhagor o wybodaeth am yr adolygiad a’r rhaglen gynhwysfawr honno. Rwy'n credu bod yn rhaid inni gofio, wrth gwrs, bod y deuoli hwn yn brosiect mor fawr a pharhaus, mae’n rhaid ei gyflawni mewn rhannau; mae'n cefnogi amcanion tasglu'r Cymoedd; mae'r ffordd yn cysylltu’r M4 yng Nghastell-nedd i'r Fenni a Henffordd ac mae'n darparu cysylltiadau rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr—hanfodol. Ond bydd yn ysgrifennu atoch chi gyda mwy o fanylion am ei raglen gynhwysfawr a'i adolygiad cost.

Ar eich ail bwynt, atebais gwestiynau ar hyn yr wythnos diwethaf. Mewn gwirionedd, credaf mai cwestiwn gan Angela Burns oedd hwnnw, a chredaf ei bod hi'n bwysig ailadrodd y pwyntiau a wneuthum yr wythnos diwethaf o ran Betsi Cadwaladr i egluro'n iawn nad yw’n debygol o orwario gan £50 miliwn eleni. Mae'r bwrdd wedi nodi risg sylweddol na fydd yn gallu cyflawni ei ddiffyg o £26 miliwn a gynlluniwyd, ond mae yn defnyddio ei drefniadau llywodraethu yn briodol i fynd i'r afael â hyn. Mae'r bwrdd iechyd wedi cydnabod y risg, mae'n cwblhau cynllun adennill ariannol i sicrhau ei fod yn cyflawni’r diffyg o £26 miliwn, sy'n cyflwyno cyfanswm rheoledig, a bydd y camau hyn yn gwella eu rhagolygon yn sylweddol. Ond rwy'n credu hefyd, dim ond o ran materion sy'n ymwneud â threfniadau mesurau arbennig, ers mis Awst, mynegodd swyddogion bryderon am y perfformiad ariannol hyd yn hyn a'r effaith bosibl ar y diffyg a ragwelwyd. Maen nhw wedi ychwanegu cyfarfodydd uwchgyfeirio ychwanegol gyda swyddogion gweithredol y bwrdd iechyd ar berfformiad a chyllid. Comisiynwyd adolygiad llywodraethu ariannol annibynnol, a bydd hwnnw'n cwmpasu datblygu, mabwysiadu a pherfformiad cynllun ariannol eleni. Ac mae Ysgrifennydd y Cabinet, ynghyd â phrif weithredwr GIG Cymru, wedi cwrdd â chadeirydd a phrif weithredwr Betsi Cadwaladr. Felly, credaf fod hwnnw'n ymateb eithaf cadarn i'ch cwestiynau.