4. 4. Datganiad: Recriwtio Athrawon

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:12, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llŷr, am y gyfres yna o gwestiynau. O ran cael eich derbyn ar gwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon, ac a wyf i'n bwriadu dileu’r gofyniad am radd B mewn Saesneg a mathemateg, nid oes gennyf unrhyw fwriad i wneud hynny ar hyn o bryd. Byddwch yn ymwybodol fod y fframwaith llythrennedd a rhifedd yn berthnasol i’n holl gwricwlwm ar gyfer hyd gyrfa ysgol plant, ac felly byddai angen i'n holl ymarferwyr gael sylfaen gadarn yn Saesneg ac mewn mathemateg. I'r bobl hynny sydd efallai yn edrych—. A dyna pam mae hi mor bwysig nad yw athrawon yn bancio graddau pan eu bod nhw’n paratoi disgyblion i wneud eu harholiadau yn gynnar, oherwydd bod goblygiadau i'r bobl ifanc hynny yn y dyfodol—. Dim ond y penwythnos hwn, cwrddais â mam nad oedd ag unrhyw syniad, wrth dderbyn gradd C, y byddai hynny'n atal ei mab rhag dilyn gyrfa mewn addysgu. Felly, mae angen inni fod yn glir bod gennym ni’r safonau hyn.

Yn achos y bobl hynny sydd o bosib yn dychwelyd i addysgu, efallai yn newid gyrfa neu bobl sy'n dymuno mynd i mewn i'r proffesiwn lle mae ganddyn nhw radd C, yna mae dewisiadau ar gael i wneud prawf cywerthedd drwy'r prifysgolion ar adeg y cais. Felly, nid yw hynny’n golygu nad oes gan bobl gyfle i sicrhau neu ddangos eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn ffordd wahanol, oherwydd mae recriwtio graddedigion, newid gyrfa a llwybrau amgen i'r proffesiwn yn bethau yr ydym ni’n edrych yn ofalus arnyn nhw ar hyn o bryd.

Y llynedd, fe welsom ni 20 o bobl yn cael eu cyflogi gan ysgolion ac yn mynd drwy broses hyfforddi. Fe hoffwn i weld mwy o hynny, ac, fel y dywedais i, rydym ni’n edrych o ddifrif ar ffyrdd y gallwn ni gael llwybrau amgen i'r proffesiwn addysgu, yn enwedig i'r rheini sydd efallai wedi cael gyrfa mewn gwyddoniaeth a diwydiant, ac sydd nawr yn awyddus i symud i'r byd addysg er mwyn rhannu eu brwdfrydedd a'u gwybodaeth am y pwnc hwnnw gyda phobl ifanc. Mae hynny'n rhan o’r amrywiaeth eang o ffyrdd yr ydym ni’n edrych arnynt i roi gwybod i bobl am bosibiliadau addysgu. Pam y byddech chi’n ystyried bod yn athro a beth wyddoch chi am hynny? Dyna pam mae cynlluniau fel y cynllun mentora ieithoedd tramor modern mor bwysig yn ein prifysgolion, oherwydd eu bod nhw’n rhoi cyfle i’n myfyrwyr ieithoedd tramor modern gael cyfnodau o weithio gyda phobl ifanc yn yr ysgol a chyflwyno iddyn nhw’r posibilrwydd, efallai, o fod yn athro. Mae un o'r graddau ffiseg gorau ym Mhrifysgol Llundain yn gwneud i’w holl israddedigion ffiseg wneud uned ynglŷn â dysgu ffiseg. Rydym ni wedi bod yn siarad â'n sector prifysgol am gynnwys hynny yn ein cyrsiau gwyddoniaeth israddedig ni, fel bod pob myfyriwr israddedig yn cael y cyfle hwnnw i fod yn agored i'r posibilrwydd o addysgu fel gyrfa, fel y gallwn ni gael ystod eang o bobl sydd â diddordeb yn y proffesiwn.

Fe wnaethoch chi ofyn am y sefyllfa barhaus ynglŷn ag athrawon cyflenwi a dyfynu’r ffigur o ychydig dros 4,000 o athrawon sydd wedi eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athrawon cyflenwi—hynny yw, mae 4,200 o athrawon sydd wedi'u cofrestru ar hyn o bryd fel athrawon cyflenwi. Mae'n bwysig dweud, Llyr, y caiff hanner y rheini eu cyflogi drwy gyfrwng ysgolion ac awdurdodau lleol ac maen nhw ar ddogfen tâl ac amodau athrawon yr ysgol. Felly, maen nhw’n cael eu talu yn y modd hwnnw. Felly, mae'n bwysig cydnabod, pan fyddwn ni’n sôn am y system gyflenwi, bod 50 y cant o'r rheini yn gweithio ac yn cael eu talu ar delerau dogfennau tâl ac amodau athrawon ysgol. Mae hynny'n ein gadael ni gydag oddeutu 2,100 o athrawon sydd wedi'u cofrestru gydag asiantaethau masnachol—sef tua 6 y cant o'n holl athrawon cofrestredig sy'n cael eu cyflogi ar y sail honno. Rwyf eisiau ei gwneud hi’n hollol glir, nid wyf i’n cymeradwyo arfer ysgolion ac asiantaethau o gynnig cyfraddau tâl isel i athrawon cyflenwi. Fe ddywedais i heddiw yn fy natganiad, fy mod yn disgwyl i athrawon dros dro gael eu gwobrwyo a'u cefnogi'n briodol ar gyfer y gwaith y maen nhw’n ei wneud.

Felly, gallai'r dull yr wyf i wedi'i amlinellu heddiw ynglŷn ag Athrawon Newydd Gymhwyso gynnig model amgen dichonol i ni yn hytrach na defnyddio asiantaethau cyflenwi wrth i ni gamu i’r dyfodol. Ac, ar hyn o bryd, rwyf wrthi’n ystyried y posibilrwydd o gyflwyno system baru ganolog i gyd-fynd â blwyddyn gyntaf datganoli tâl ac amodau athrawon, gyda’r cyfrifoldebau hynny’n cael eu trosglwyddo yn nhymor yr hydref 2018. Felly, 2019 fydd ein blwyddyn gyflog gyntaf y bydd y system honno’n weithredol. Mae’n rhaid i’r system hon fod yn un sy'n ateb gofynion Cymru. Ni all fod yn system lle nad ydym ni wedi gwneud dim amgenach na’i thrawsblannu o rywle arall.

Gadewch i mi ei gwneud hi’n gwbl glir eto: mae'r mater hwn wedi'i ddatganoli i benaethiaid. Mater i benaethiaid yn eu hysgolion yw gwneud trefniadau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi. Nid oes dim yn eu gorfodi i ddefnyddio asiantaeth; nhw sy’n penderfynu. Fe allwn ni ddadlau ynghylch pa un a ydym ni eisiau rheoli ysgolion yn lleol, neu a ydym ni eisiau tynnu’r pwerau hynny oddi ar benaethiaid a gorfodi system genedlaethol arnyn nhw. Fe allwn ni gael dadl ynghylch hynny, ond mae'n dangos bod hwn yn fater eithaf cymhleth ac oherwydd y cymhlethdodau hynny, cofiwch, dyna pam na allai'r grŵp gorchwyl a gorffen argymell un system ar gyfer Cymru y gellid ei gweithredu'n gyflym. Ond, rydym ni’n parhau i edrych ar hyn, ac mae'r cynllun arbrofol hwn, fel y dywedais i, yn rhoi’r posibilrwydd o fodel amgen inni.