Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 24 Hydref 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi fy llwyr gyfareddu gan eich datganiad, ac yn croesawu’n fawr y datganiad gan David Melding, Geidwadwr blaengar, os nad yw hynny'n ormod o wrtheiriad.
Hoffwn ymhel ychydig â’r hanes, o ran pam yr ydym ni yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw. Gordon Brown, pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys, yn 2006 wnaeth gyhoeddi polisi cartrefi di-garbon ledled y DU, a Phrydain oedd y wlad gyntaf i wneud ymrwymiad o'r fath. Byddai'n ei gwneud hi'n amhosib i unrhyw gartrefi newydd a adeiladwyd ers 2016 i beidio â bod yn rhai a oedd hefyd yn cynhyrchu cymaint o ynni ar y safle ag y bydden nhw’n ei ddefnyddio wrth wresogi, twymo dŵr poeth, goleuo ac awyru. Felly, roedd hwn yn bolisi ardderchog a blaengar, gyda phecyn gwyrdd a oedd yn nodi'r fframwaith rheoleiddiol i helpu i gyflawni'r allyriadau di-garbon y bu'n rhaid inni eu darparu mewn tai erbyn 2016 ac adeiladau annomestig erbyn 2019. Felly, peth trist iawn oedd bod George Osborne wedi diddymu'r ddwy raglen hyn yn ôl ym mis Gorffennaf 2015 mewn troednodyn, yn y cynllun cynhyrchiant cywilyddus a oedd ynghlwm wrth ei ddatganiad cyllideb yn yr haf. Cyhoeddodd pennaeth Green Building Council y DU ar y pryd mai dyma hoelen yn arch y polisi cartrefi di-garbon. Felly, rwy’n llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet am adfywio'r polisi hwnnw, oherwydd dyna'r union beth y mae angen inni fod yn ei wneud.
Mae gennym ni argyfwng tai enfawr, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet eisoes, a rhaid inni gofio bod 80 y cant o'r tai y bydd pobl yn byw ynddyn nhw yn 2050 eisoes wedi'u hadeiladu. Felly, nid oes angen inni fod yn adeiladu unrhyw gartrefi annigonol y bydd yn rhaid inni eu hôl-addasu. Mae angen inni roi stop ar hynny ac adeiladu'r math o gartrefi a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, rwy'n croesawu'r syniad o weithio gyda thyfwyr coed, a gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o waith Wood Knowledge Wales, lle mae tyfwyr, adeiladwyr a phenseiri yn cydweithio i gynhyrchu'r cartrefi arloesol hyn y mae pobl eisoes yn byw ynddyn nhw, ac y gwyddom eu bod yn llwyddiannus.
Ar y cynwysyddion wedi'u hailgylchu, nid wyf i wedi ymweld ag un hyd yn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen at wneud hynny. Ond rwy’n cytuno’n llwyr bod byw mewn cynhwysydd wedi'i ailgylchu'n llawer gwell na chysgu ar y stryd, neu syrffio ar soffa rhywun arall. Bydd hyn yn rhoi preifatrwydd ac urddas i bobl a'u galluogi i ailadeiladu eu bywydau a symud ymlaen i dai mwy o faint sy’n addas i’w hamgylchiadau. Ond rydych yn gywir i nodi bod yr iypis yn Llundain eisoes yn byw yn y cartrefi hyn, gan na allan nhw fforddio hyd yn oed sied mewn gardd gyda’r prisiau hurt yn Llundain.
Rwy’n awyddus i’n herio ni i fynd i'r afael â'r gafael haearnaidd sydd gan y pum adeiladwr mawr o ran adeiladu tai yn y sector preifat. Dangoswyd eisoes y gellir adeiladu tai modiwlaidd o fewn terfynau tebygol cyllidebau tai cymdeithasol—£110,000 ar gyfer cartref tair ystafell wely. Felly, os gallan nhw wneud hynny, pam mae’r pump mawr yn parhau i fynnu bod yn rhaid iddyn nhw weld 25 y cant yn ôl ar eu helw cyn eu bod yn codi o'r gwely yn y bore hyd yn oed?
Credaf fod angen i hynny newid, ac mae angen inni newid y sgwrs honno. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddangos iddyn nhw unwaith eto fod yna atebion cwbl gampus eisoes ar gael i ganiatáu i ni fynd i'r afael â'r broblem tai mewn ffordd a fydd yn darparu cartrefi cynnes a fforddiadwy i bobl, y byddan nhw’n falch o gael byw ynddyn nhw.