Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 24 Hydref 2017.
Rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod. Mae hi wedi hyrwyddo achos tai cynaliadwy am nifer o flynyddoedd ac rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau.
Mae'n rhaid inni dorri'r arfer, a rhaid inni dorri'r chwedl, ynghylch pam mae'n rhaid i ni gael yr un hen fath o gartref yn cael ei adeiladu, yng Nghymru neu yn unrhyw le arall. Rwyf hefyd yn cydnabod, er ein bod yn datblygu cynhyrchion newydd, ei bod yn rhaid cael cyfnod pontio i alluogi pobl i ailhyfforddi ac ailsefydlu—efallai y bydd y dewis o sgiliau traddodiadol o osod brics nawr yn symud i ffatri sy’n creu unedau modiwlaidd. Felly, mae'n rhaid inni helpu'r diwydiant i wneud hynny. Bu Julie James a Ken Skates o gymorth mawr gyda rhai o'r materion cyflogadwyedd o ran hynny.
Mae mater y pwysau y soniodd yr Aelod amdano, yn enwedig o ran digartrefedd—yn un sydd gyda ni ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth a dyna pam mae ateb cyflym, fel yr unedau dur modiwlaidd—yn rhywbeth y gallwn ei gyflawni yn gyflym iawn. Fel arfer bydd yn cymryd tua 12 wythnos o’r archeb i’r cyflenwad. Ymwelais i â rhaglen yng Nghasnewydd lle’r oedd grŵp eglwys a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc digartref yn troi cynwysyddion yn gartrefi, ac roedden nhw wedyn yn mynd i’w defnyddio fel llety. Felly, roedd mecanwaith hyfforddi a chynorthwyo’n ymwneud â hynny hefyd, a byw â chymorth. Felly, roedd yn brosiect craff iawn. Dyma rai o'r syniadau yr wyf i wedi dod ar eu traws ar fy nesg a rhai pethau y byddwn yn eu datblygu.
Y cwestiwn mawr yw hyn—ac mae'n un sylfaenol i unrhyw Weinidog y mae angen iddo wneud penderfyniadau am hyn—beth yr ydym yn ei wneud a beth yr ydym yn ei adeiladu i’r dyfodol? Mae mater pwysau costau ynni, pwysau ar yr amgylchedd a phwysau cynhesu byd-eang i gyd yn bethau y dylem ni eu hystyried a gwneud buddsoddiad doeth nawr a fydd yn para 40 mlynedd. Dyfarnu’n gywir yw hyn. Efallai y bydd yn costio ychydig yn fwy i ni ond dyna'r peth iawn i'w wneud, a dyna’r hyn y byddaf i’n parhau i'w wneud.
Ond rwy’n credu y bydd y raddfa yn lleihau'r costau yn sylweddol ac felly y bydd yn gallu cystadlu â'r adeiladau traddodiadol, a bydd yn rhywbeth y credaf i—fel y dywedais yn gynharach wrth gydweithwyr, y bydd y dull gweithredu tarddu o Gymru yn rhywbeth y gallem ni arwain y farchnad arno os gwnawn ni hyn yn iawn.