Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 24 Hydref 2017.
O ran y Bil parhad, mae'n rhywbeth, wrth gwrs, yr ydym yn dal i’w ystyried, ond byddai'n well pe bai cynnydd yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE). A ydym mewn sefyllfa i argymell i'r Cynulliad y dylem gymeradwyo'r Bil ymadael fel y mae? Na. Dywedais hynny yn yr hyn a ddywedais ar ddechrau fy natganiad. A yw Llywodraeth y DU nawr yn ymgysylltu mwy? Yr ateb i hynny yw 'ydynt'. Pam? Wel, rwy'n meddwl eu bod wedi gwneud y rhifyddeg yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Rwy'n meddwl, petai ganddynt fwyafrif o dros 100, na fyddem yn y sefyllfa hon nawr. Ond mae'n eithaf clir bod y geiniog wedi syrthio yn hynny o beth.
Mae Damian Green yn rhywun sy'n fy nharo fel rhywun y gallwch chi siarad ag ef, ac a wnaiff siarad yn ôl â chi—mae hynny’n helpu. Mae ei gyfraniad yn sicr wedi helpu'r broses hyd yn hyn, ac mae arnom angen iddo barhau felly. A yw hyn yn golygu ein bod mewn sefyllfa lle mae popeth yr oedd ei eisiau arnom wedi'i gynhyrchu? Na. Ydyn ni'n meddwl y dylai fframweithiau cyffredin fod yn destun cytundeb rhwng y Llywodraethau? Ydym, rydw i wedi dweud hynny o’r dechrau. Rwyf eisoes wedi dweud llawer o'r hyn y dywedodd arweinydd Plaid Cymru, dros lawer o fisoedd. A ydw i'n credu y dylid cytuno ar reolau marchnad sengl, a phenderfynu ar y cyd? Ydw, rwyf wedi dweud hynny sawl gwaith, ac rwyf wedi dweud bod angen llys. Un cwestiwn yr anghofiais ei ateb gan Mark Isherwood yw bod angen llys i feirniadu ar y farchnad sengl. Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yw'r llys sy'n rheoleiddio masnach rhyngdaleithiol yn yr Unol Daleithiau. Llys Cyfiawnder Ewrop sy’n ei wneud yn y farchnad sengl. Llys Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop sy’n ei wneud ar gyfer Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop. Mae angen llys i reoleiddio marchnad sengl y DU. Gallai'r Goruchaf Lys wneud hynny. Mae'n weddol hawdd dynodi'r Goruchaf Lys fel y llys a fyddai'n gwneud hynny. Yr hyn na all ddigwydd yw bod Llywodraeth y DU yn gwneud y rheolau a Llywodraeth y DU yn penderfynu ar anghydfodau. Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa lle rydym wedi cychwyn proses datrys anghydfodau dros arian Gogledd Iwerddon â Llywodraeth y DU ac maen nhw'n gwrthod mynd â hi drwy broses datrys anghydfodau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion am eu bod yn dweud nad oes anghydfod. Wel, yn amlwg mae yna. Nawr, allwn ni ddim derbyn sefyllfa fel hyn yn parhau i’r dyfodol, ac, fel y dywedais o'r blaen, mae angen i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion esblygu i fod yn gyngor priodol o Weinidogion y DU sy'n ymdrin â materion datganoledig ac sy'n cynnal gwrandawiadau, o leiaf, ynglŷn â materion nad ydynt wedi'u datganoli, er mwyn i'r DU weithio'n iawn.
O ran y cyngor cyfreithiol a'r cipio grym, gallwn fod wedi rhoi hynny iddi am ddim, oherwydd rydym yn gwybod bod hynny’n digwydd yn barod. Bydd hi'n gwybod, yn y trafodaethau sydd wedi digwydd rhwng ein pleidiau yn ystod y misoedd diwethaf, ein bod i gyd yn cytuno y bydd yna gipio grym. Dyna beth mae cymal 11 yn ei ddweud. Byddai'n atal y Cynulliad rhag defnyddio pwerau a fyddai'n dod inni’n awtomatig pe na byddent yn cael eu dargyfeirio drwy’r drws cefn i Whitehall. Fel y dywedais o'r blaen, ni allaf ddod gerbron y Cynulliad hwn ac awgrymu i'r Cynulliad y dylent ildio pwerau, a fyddai'n cyrraedd ar garreg y drws, am gyfnod amhenodol yn wirfoddol. Dydw i ddim yn barod i wneud hynny, ac yn amlwg dyna'r sefyllfa o hyd ar hyn o bryd. Mae angen gwneud mwy o waith.
O ran y porthladdoedd, unwaith eto, mae'n rhywbeth yr wyf wedi'i godi gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Iwerddon. Codais y mater hwn gyda'r Taoiseach. Y gwir amdani yw bod 70 y cant o'r fasnach rhwng Prydain Fawr ac Iwerddon yn mynd drwy borthladdoedd Cymru. Os gwelir ei bod yn haws mynd drwy Lerpwl a Cairnryan a Troon yn yr Alban i Ogledd Iwerddon, ac yna i lawr dros ffin a fyddai'n haws ei chroesi, byddwn yn colli masnach a byddwn yn colli swyddi. Mae hynny'n ymddangos yn glir iawn i mi. A byddai Iwerddon hefyd, o ran hynny—byddai Gweriniaeth Iwerddon hefyd.
O ran y cwestiynau y mae hi'n eu gofyn imi, a ydw i'n gresynu at ysgogi erthygl 50? Na, rwy'n meddwl bod hynny'n cyd-fynd â chanlyniad y refferendwm. A ydw i'n gresynu at y diffyg cynnydd ers hynny? Ydw, yn fawr iawn. Yn fawr iawn. Byddwn wedi gobeithio y byddai llawer mwy o gynnydd na hyn wedi’i wneud erbyn hyn. O ran y Bil ymadael, ydy, mae wedi cael ei ohirio. Mae yna broblemau amlwg o ran Llywodraeth y DU, mewn sawl ffordd wahanol. Fe’i gwnaethom yn glir iawn iddynt nad ydym yn barod i symud, yr Albanwyr a ni. Nid ydym yn barod i symud o’r sefyllfa bresennol nes ein bod yn ddigon bodlon a chyfforddus ar ran pobl Cymru y bydd y pwerau'n cyrraedd yma fel y dylent.
Yn olaf, ynglŷn â mater 'dim bargen', gallwn, gallwn baratoi am 'ddim bargen', ond ni allaf gamarwain pobl drwy ddweud y gallwn liniaru'n llwyr yr hyn y mae 'dim bargen' yn ei olygu. Byddai hynny’n amhosibl. Os na all ein ffermwyr gael mynediad—. Os na all ein ffermwyr defaid gael mynediad at y farchnad Ewropeaidd, y farchnad allforio fwyaf o bell ar gyfer cig oen Cymru, does dim marchnad arall lle gallant werthu ar fyr rybudd. Nid yw'n bosibl. Ni waeth faint o gymhorthdal gaiff ei dalu i bobl, bydd ganddynt anifeiliaid nad ydynt yn gallu eu gwerthu, ac mae hynny'n golygu y bydd y pris yn gostwng, fel y gwyddom. Does dim lliniaru ar hynny. Rydym wedi mynd allan dros y blynyddoedd, mae cig oen Cymru wedi mynd i wledydd eraill. Pan oeddwn i'n Weinidog materion gwledig, buom yn gweithio'n galed i gael cig oen Cymru i Dubai, ac rwy’n gwybod bod y Llywydd wedi gwneud hynny hefyd pan olynodd fi yn y swydd honno. Mae nawr yn cymryd ei le yn falch yn archfarchnadoedd Dubai. Mae gennym farchnadoedd eraill o gwmpas y byd lle rydym wedi ehangu cig oen Cymru a'i gyrhaeddiad, ond y realiti yw mai'r farchnad Ewropeaidd, o bell, yw'r farchnad fwyaf o hyd.
Mae yna broblemau go iawn o ran y sector modurol a'r hyn y mae'r tariffau yn ei olygu iddo. Mae llawer o'n cwmnïau wedi gweithredu ar y sail eu bod yn weithrediadau Ewropeaidd—mae Airbus yr un fath, mae'r diwydiant modurol yr un fath. Dydy creu rhwystr artiffisial rhwng un rhan lawer llai o hynny a’r gweddill ohono ddim yn gwneud dim synnwyr i mi. Felly, gallwn, gallwn helpu, ond ni allaf, â’m llaw ar fy nghalon, ddweud ei bod hi'n bosib lliniaru effaith dim bargen yn llwyr. Os nad oes marchnad, y cyfan y gallwch chi ei wneud wir yw cynnig dewis gwahanol i'r hyn y mae pobl yn ei wneud yn barod a dweud, 'Mae'n ddrwg gennym, allwch chi ddim allforio ar yr un lefel nawr, rydym yn mynd i orfod eich symud a bydd rhaid inni eich ailhyfforddi fel rhywbeth arall.'
I mi, y ffordd i osgoi hynny yw gwrthod 'dim bargen', a dweud y gwir. Ni ddywedodd neb yn y refferendwm y llynedd na fyddai dim bargen—ni ddywedodd neb hynny. Dywedodd pawb a oedd o blaid gadael y byddai bargen: byddai bargen, a byddai'n fargen ar delerau'r DU, byddai gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn ei gorfodi, a gallem fod yn yr AEE. Ni ddywedodd neb, y llynedd, pe baem yn gadael yr UE, y dylem adael popeth a throi at reolau Sefydliad Masnach y Byd. Ni ddywedodd neb hynny. Ac roedd hynny'n dwyll; dim mwy na breuddwyd gwrach gan bobl a feddyliodd am syniadau a oedd yn cyd-fynd â’u barn nhw am y byd.
Yn olaf, yr hyn sy'n hollbwysig yw bod y rheini yn San Steffan a thu allan sy'n meddwl y dylai dyfodol Cymru a'r DU a'u perthynas â'r UE fod yn seiliedig ar egwyddorion yr hyn sy’n edrych i mi fel cenedlaetholdeb y bedwaredd ganrif ar bymtheg—y dylid gwrthwynebu’r bobl hynny ar bob cyfle. Rydym yn barod i weithio gyda'r rheini yn Llywodraeth y DU sy'n bragmatig, sydd am weld y canlyniad gorau o Brexit, ond mae hynny'n golygu na allwn esgus ein bod yn byw yn oes Fictoria ac y bydd y byd yn syrthio wrth ein traed.