9. 9. Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017

– Senedd Cymru am 6:29 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:29, 24 Hydref 2017

Yr eitem nesaf yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017. Rydw i’n galw ar Weinidog Iechyd y cyhoedd i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM6538 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:29, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a gychwynwyd ym mis Ebrill y llynedd, yn dwyn ynghyd dyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol o ran gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr sydd angen cymorth mewn un Ddeddf. Mae'r rheoliadau sydd ger eich bron heddiw yn ceisio gwneud mân welliannau technegol i ddeddfwriaeth sylfaenol o ganlyniad i gychwyn y Ddeddf honno.

Eu pwrpas i raddau helaeth yw tacluso'r llyfrau statud a darparu eglurder a chysondeb ar draws deddfwriaeth sylfaenol, pan fo Deddf 2014 yn effeithio arni. Mae Adran 101(2) o Ddeddf 2014 yn ailadrodd y pŵer gwneud rheoliadau sy'n bodoli yn adran 25C(2) o Ddeddf Plant 1989 o ran achosion plant a atgyfeirir i swyddogion achosion teulu yng Nghymru gan swyddogion adolygu annibynnol yr awdurdod lleol. Mae'r pŵer a ddyblygir yn adran 25C(2) felly yn ddiangen ac mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Deddf 1989 i ddatgymhwyso'r adran hon o ran Cymru. Mae'r rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 trwy ddisodli cyfeiriad at adran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 â'r cyfeirnod wedi'i ddiweddaru i adran 144 o Ddeddf 2014.

Yn olaf, mae'r rheoliadau yn disodli cyfeiriadau at Orchmynion preswylio trwy adrannau 76 ac 81 o Ddeddf 2014 â Gorchmynion trefniant plant, y term a ddefnyddir yn Neddf Plant a Theuluoedd 2014. Mae'r rheoliadau hyn, er eu bod yn fân o ran eu natur, yn angenrheidiol er mwyn sicrhau ymagwedd gyson tuag at ymdrin â therminoleg ym mhob rhan o ddeddfwriaeth sylfaenol, ac fel y cyfryw, rwyf yn eu cymeradwyo i'r Aelodau.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:31, 24 Hydref 2017

Nid oes siaradwyr ar yr eitem yma. Ac felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:31, 24 Hydref 2017

Dyna ddod â diwedd ar ein trafodion am y dydd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:31.