Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 25 Hydref 2017.
Wel, mae’r llywodraethu a’r oedi sydd efallai’n deillio o’r ansicrwydd yn ei gylch ar hyn o bryd yn peri pryder i mi. Ac roedd eich sylwadau y llynedd yn galonogol iawn, pan ddywedoch wrthyf, unwaith y cytunir ar y fargen ac y sicrheir yr arian—ac rydych newydd gadarnhau hynny yn awr—y dylai’r bwrdd gynrychioli busnesau yn y rhanbarth. A rhoesoch sicrwydd i mi y byddech yn cynnwys y gofyniad pwysig hwn yn y trafodaethau rydych yn eu cael gyda’r bwrdd. Nawr, gwn ei bod yn ymddangos bod hynny ychydig yn agosach na ble’r oeddem y tro diwethaf inni siarad, ond mae rhywfaint o ansicrwydd o hyd nad yw mentrau preifat yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar y bwrdd cysgodol, ac rwy’n meddwl tybed sut y mae’ch sylwadau i’r bwrdd ar y pwynt pwysig hwn wedi symud pethau yn eu blaen.