Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 25 Hydref 2017.
Wel, diolch i Suzy Davies am hynny. Er mwyn rhoi ychydig mwy o fanylder, felly, Dirprwy Lywydd, ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd trefniadau llywodraethu yn golygu cabinet ar y cyd o’r pedwar arweinydd. Yn y pen draw, gan fod hwn yn arian cyhoeddus sy’n perthyn i awdurdodau lleol yn ogystal â’r ddwy Lywodraeth, mae’n rhaid i unigolion etholedig wneud y penderfyniadau hynny. Ond rwyf wedi cytuno gyda’r Ysgrifennydd Gwladol y dylid cael bwrdd strategaeth economaidd a fydd yn rhoi cyngor uniongyrchol i’r cabinet hwnnw. Bydd cynrychiolydd busnes o’r sector preifat yn cadeirio’r bwrdd strategaeth economaidd, ac rydym yn trafod â swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol sut y gallwn sicrhau bod yr unigolyn hwnnw’n cael ei benodi, a’r bobl a fydd yn eu cefnogi gyda’r gwaith hwnnw.