Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:34, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Yn ychwanegol at y materion llywodraethu, pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael ynglŷn â chyfraniadau ariannol ac elw mewn perthynas â’r pedwar awdurdod? Efallai y bydd yn rhaid i gynghorau fenthyca oddeutu £360 miliwn, sy’n her fawr mewn cyfnod o gyni. Felly, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â hynny? A hefyd, o ran y fargen ddinesig, pa drafodaethau a gawsoch ynglŷn â’r angen i weithio ar draws sectorau, gyda llywodraeth leol, ac nid gyda’r sector preifat yn unig ond hefyd, yn enwedig, gyda’r sector iechyd, gan fod arloesi sylweddol ym maes iechyd yn digwydd yn lleol, a hoffem weld y ddau sector yn siarad â’i gilydd?