Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 25 Hydref 2017.
Wel, y mis diwethaf ymrwymodd Llywodraeth yr Alban, yn ei rhaglen lywodraethu, i gael gwared ar y cap cyflog ar gyfer staff y GIG, ar gyfer athrawon, ar gyfer gweision sifil a gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus sy’n ei chael yn anodd. Wrth ymateb i hyn, dywedodd arweinydd dros dro’r Blaid Lafur yn yr Alban, Alex Rowley:
Mae’n hen bryd i’r SNP wneud y tro pedol hwn, ac mae’n braf gweld bod yr ysgrifennydd cyllid
Derek Mackay wedi dilyn arweiniad Llafur wrth gael gwared ar y cap cyflog o’r diwedd.
Nawr, mae Llafur yn galw ar Lywodraeth San Steffan i gael gwared ar y cap cyflog. Maent yn canmol Llywodraeth yr Alban am gael gwared ar y cap cyflog. Ond mae’r unig Lywodraeth a allai gael gwared arno eu hunain yn gwrthod gwneud hynny. Onid rhagrith o’r math gwaethaf yw hyn?