Y Cap ar Gyflogau’r Sector Cyhoeddus

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:04, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Adlewyrchiad yw hyn, Dirprwy Lywydd, o’r gwahanol ddulliau sydd ar gael i Lywodraethau gwahanol mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig. Rwy’n cyfarfod â Derek Mackay yfory. Edrychaf ymlaen at drafod gydag ef pa mor bell y mae wedi mynd gyda’i gynlluniau. Nid oes gennym lawer o fanylion eto ynglŷn ag i ba raddau y gellir cael gwared ar y cap cyflog yn yr Alban, na sut y mae’n bwriadu talu am hynny, ond mae ei allu i godi arian yn wahanol iawn i’n gallu ninnau, ac nid oes yn rhaid iddo wneud rhai o’r dadleuon sy’n rhaid i mi eu gwneud ynglŷn ag effaith Llywodraeth y DU ar ein cyllideb. Felly, edrychaf ymlaen at drafod hynny ymhellach gydag ef, ond nid yw’r gwahaniaeth yn ymwneud â’r hyn a amlinellodd Adam Price, ond yn hytrach, mae’n ymwneud â’r set wahanol o offer a galluoedd sydd gan wahanol rannau o’r Deyrnas Unedig i roi camau gweithredu ar waith yn y maes hwn.