Y Cap ar Gyflogau’r Sector Cyhoeddus

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 2:07, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Er ein bod ni yn UKIP yn cydnabod bod yn rhaid cael gwared ar y cap ar gyflogau’r sector cyhoeddus ac y dylid talu pob gweithiwr, nid ychydig o rai dethol yn unig, yn gymesur â’u graddfeydd gwaith, rydym hefyd yn credu bod cyfleoedd enfawr i osgoi’r lefelau uchel o wastraff mewn rhai rhannau o’r sector cyhoeddus. Mae biwrocratiaeth a gwastraff yn gyffredin o hyd yn y GIG, ac mewn rhai achosion, gellid dweud eu bod ar lefelau epidemig. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno mai trwy leihau’r lefelau enfawr o staffio biwrocrataidd sy’n endemig yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn unig y gallwn ariannu’r staff sydd ar y rheng flaen go iawn, gyda chyflogau sy’n gymesur â’u cyfrifoldebau, a gwneud hynny ar sail gynaliadwy?