Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 25 Hydref 2017.
Dirprwy Lywydd, rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd Mike Hedges. Wrth gwrs, mae gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn haeddu cael eu talu’n iawn am y gwaith y maent yn ei wneud, ac mae’n llygad ei le wrth nodi’r ffaith bod pobl sy’n ymdrechu i ymdopi ar gyflogau nad ydynt wedi codi o un flwyddyn i’r llall yn gofyn sut mai hwy oedd yn gyfrifol am yr argyfwng bancio ddegawd yn ôl, tra bo’r rhai a oedd yn gyfrifol amdano i’w gweld yn gorfod ysgwyddo llawer iawn llai o’r baich hwnnw. Mae Mike yn llygad ei le hefyd, Dirprwy Lywydd, yn dweud, yn union fel y dylid cael gwared ar y cap cyflog yng Nghymru, fod yn rhaid i’r cyfrifoldeb am dalu i gael gwared ar y cap hwnnw, am y polisi hwnnw yn y lle cyntaf, ddod gan y rhai sy’n gyfrifol amdano. Rhaid iddynt hwy ddarparu’r arian. Os ceir gwared ar y cap yng nghyllideb mis Tachwedd a bod yr arian yn llifo i Gymru er mwyn cael gwared ar y cap hwnnw, mae’r Prif Weinidog wedi gwarantu y bydd pob ceiniog ohono’n cael ei neilltuo at y diben hwnnw.