Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 25 Hydref 2017.
Rwyf ond yn dweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn gobeithio nad oedd yn annog Aelodau eraill o’i blaid i fynychu’r cyfarfod hwnnw a gofyn cwestiynau. Fel arall, bydd yr Aelod y tu ôl iddo—bydd mewn cryn drafferth gyda hi yn sgil hynny.
Fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, yr hyn rydym wedi’i wneud yw cynnig pedwar syniad posibl—pob un ohonynt yn syniadau hollol brif ffrwd, pob un ohonynt yn syniadau sydd wedi’u profi mewn rhannau eraill o’r byd. Mae pob un ohonynt wedi bod yn rhan o’r ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddi yma yng Nghymru dros y misoedd diwethaf. Nid ydynt yn ddim mwy na phosibiliadau a bydd pob un ohonynt yn cael ei ddadansoddi’n ofalus.
Yr hyn sy’n siom go iawn i mi ynglŷn â chyfraniad yr Aelod, Dirprwy Lywydd, yw ei fod eisiau cau’r caead ar y ddadl cyn iddi ddechrau hyd yn oed, yn hytrach na defnyddio’r cyfle newydd sydd gennym yma yng Nghymru i gael trafodaeth agored ynglŷn â’r pethau hyn ac i glywed y dystiolaeth a chlywed gan bobl sydd â safbwyntiau gwahanol a phwyso a mesur wedyn yn y ffordd briodol. Credaf fod honno’n ffordd siomedig o feddwl sut y dylai ein democratiaeth weithio yma yng Nghymru.