Trethi Newydd

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:16, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

I ddilyn y cwestiwn hwnnw—rwy’n deall na fydd yr Ysgrifennydd cyllid, yn amlwg, yn gallu ystyried na diystyru unrhyw un o’r trethi hyn ar hyn o bryd—a wnaiff gofio, wrth iddo wneud ei benderfyniad, adroddiad Fforwm Economaidd y Byd ar deithio, sydd wedi gosod y Deyrnas Unedig yn safle 140 o 141 o wledydd yn y byd mewn perthynas â chystadleurwydd o ran cost yn y diwydiant twristiaeth? Un wlad yn unig yn y byd sydd â threthi twristiaeth uwch na ni eisoes, os ydych yn cynnwys pethau fel y doll teithwyr awyr a TAW, a dylai cynnal cystadleurwydd economi Cymru, yn enwedig ar gyfer twristiaeth ryngwladol, fod yn un o’r egwyddorion pwysig sy’n sail i unrhyw benderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ynglŷn â threthi.