Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 25 Hydref 2017.
Diolch i Huw Irranca-Davies. Mae tri o’r pedwar posibilrwydd gwahanol ar ein rhestr bellach wedi cael eu crybwyll y prynhawn yma. Credaf fod hynny’n arwydd da iawn o’n gallu i gael trafodaeth briodol ynglŷn â’r gwahanol ffyrdd y gellid defnyddio pwerau sydd wedi dod i Gymru.
Mae gwaith Gerry Holtham a Tegid Roberts yn ddifrifol iawn. Gwn eu bod wedi cyfarfod yn ddiweddar â’m cyd-Aelod Rebecca Evans ac wedi sôn am fwy o waith sydd angen ei wneud er mwyn adeiladu ar y posibilrwydd hwnnw. Yr hyn rwy’n awyddus i’w wneud wedyn, Dirprwy Lywydd, fel rwyf wedi egluro yn y Siambr o’r blaen, yw treialu’r mecanweithiau newydd a nodir yn Neddf 2014. Byddaf yn trafod hynny gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys pan fyddaf yn cyfarfod â hi yfory. Ceir cyfres o brofion y bydd angen i ni allu eu hateb ar lefel y DU yma pan fydd Llywodraeth yn penderfynu pa geisiadau i’w cyflwyno, os o gwbl. Yna, byddai cysondeb ag egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn sicr yn rhywbeth y byddai unrhyw Weinidog yn disgwyl i Aelodau eraill graffu arno a’i brofi.