Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 25 Hydref 2017.
Yn dilyn cwestiwn Simon ynglŷn â’r egwyddorion sy’n sail i drethi neu ardollau newydd, a gaf fi ofyn i ba raddau y mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a’r egwyddorion sy’n sail iddi wedi eu hymgorffori yn y cynigion newydd? Gwyddom y bydd y gyfran o bobl hŷn y rhagwelir y bydd angen gofal preswyl arnynt yn codi dros 80 y cant erbyn 2035, mewn llai nag 20 mlynedd, ynghyd â chynnydd o bron i 70 y cant yn y gyfran sydd angen gofal dibreswyl.
Mae Gerald Holtham a Tegid Roberts wedi awgrymu y gallai ardoll fach wedi’i neilltuo, o dan arweiniad ymddiriedolwyr i fynd i gronfa, cronfa yswiriant cymdeithasol estynedig yng Nghymru, ariannu gofal cymdeithasol digonol yng Nghymru yn y dyfodol y gellir ei ragweld. Oni fuasai hon yn enghraifft wych o ddefnyddio’r egwyddorion a ymgorfforir yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol i arwain datblygiad trethi ac ardollau yng Nghymru ac i wella bywydau dinasyddion Cymru?