Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 25 Hydref 2017.
A gaf fi ganmol yr Aelod am gyflwyno’r ddadl hon ar y cynnig deddfwriaethol hwn? Yn yr Unol Daleithiau lle’r roeddent yn edrych ar y dechnoleg hon fesul talaith, a fuasai’n nodi bod y rhai a ganiataodd iddo ddatblygu i fod yn ffyniant wedi gorfod lleihau a chyfyngu ar eu deddfwriaeth amgylcheddol er mwyn gwneud i hynny ddigwydd? Cawsant wared ar amddiffyniadau i wneud i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, a chafodd hynny effaith ar iechyd y cyhoedd hefyd.