Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 25 Hydref 2017.
Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn gywir, ac rydym yn wynebu’r her hon o adael yr Undeb Ewropeaidd a chadw ein safonau amgylcheddol uchel, ac rwy’n credu bod honno’n her i wlad sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel canolbwynt i’w deddfwriaeth.
O ran gwarchod yr amgylchedd, ni fydd ffracio yn ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd na’n rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil. Mae nwy siâl yn newyddion drwg ofnadwy i’n hinsawdd. Bydd ffracio’n creu mwy o nwyon sy’n newid yr hinsawdd, nid yw’n gydnaws â’n targedau newid hinsawdd, a bydd nwy siâl yn cynnal ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil ac yn tynnu ein sylw oddi ar atebion go iawn y dyfodol: defnydd effeithlon o ynni ac ynni adnewyddadwy. Rwyf hefyd yn awgrymu y buasai caniatáu ffracio yng Nghymru yn nacáu’r cyhoeddiad diweddar am darged y Llywodraeth i sicrhau bod 70 y cant o’n trydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.
Mae perygl hefyd y gallai ffracio halogi dŵr. Mae Asiantaeth Amgylchedd y DU wedi canfod bod yr hylif gwrthlifol o nwy siâl Swydd Gaerhirfryn yn cynnwys, ac rwy’n dyfynnu, lefelau arbennig o uchel o sodiwm, clorid, bromid a haearn, yn ogystal â lefelau uwch o blwm.
Buasai’r effaith ar ein tirwedd yn enfawr. Er mwyn i ffracio gael ei ddatblygu’n llawn, gallem weld 10,000 i 20,000 o ffynhonnau’n cael eu gwasgaru o amgylch y wlad mewn clystyrau o chwech i saith ar yr hyn a elwir yn badiau drilio. Rwy’n nodi, gydag eironi dwfn, mai cefnogwyr cryfaf ffracio sy’n tueddu i wrthwynebu ffermydd gwynt yn y modd cryfaf posibl hefyd.
Gall hefyd fod yn wir na fuasai daeareg y DU yn cynnal ffracio. Ym mis Awst 2017 dywedodd yr Athro John Underhill, prif wyddonydd Prifysgol Heriot-Watt:
Nid yw cymhlethdod cynhenid y basnau gwaddodol wedi cael ei werthfawrogi na’i ddiffinio’n llawn ac o ganlyniad mae’r cyfle wedi cael ei orliwio.
Rhybuddiodd yn erbyn dibynnu ar nwy siâl, ac rwy’n dyfynnu, i ddiwallu anghenion y DU am nwy a darganfod ein bod 55 miliwn o flynyddoedd yn rhy hwyr.
Mae Plaid Cymru eisiau rhoi diwedd ar ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, ac mae hyn yn cynnwys gwahardd ffracio’n llwyr. Rydym yn cydnabod mai newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu’r ddynoliaeth, ac mae angen i ni ddatgarboneiddio ein sector ynni. Ein huchelgais o hyd yw cynhyrchu cymaint o drydan ag a ddefnyddir yng Nghymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae ffracio’n tynnu sylw’r sector ynni, ac o bosibl, yn dargyfeirio cyllid cyhoeddus hefyd oddi wrth ffynonellau ynni cynaliadwy ac adnewyddadwy. Yn hytrach na buddsoddi mewn tanwyddau ffosil, dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi mewn technoleg adnewyddadwy lân. Mae gan forlyn llanw bae Abertawe botensial enfawr i economi Cymru a gallai greu mwy o swyddi heb y peryglon i iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd ehangach.
Rwy’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw fel ymrwymiad i ddefnyddio’r pwerau, pan fyddant yn dod i rym fis Ebrill nesaf, i wahardd ffracio yng Nghymru. Yn lle hynny, dylem ymroi i ddiwygio deddfwriaeth cynllunio defnydd tir i gyflymu cynlluniau ynni sy’n eiddo i gymunedau ac sy’n eiddo i ffermwyr, gyda rhagdybiaeth o blaid datblygu. Buasem wedyn yn trawsnewid ein polisi ynni i sicrhau bod buddiannau cymunedau Cymru yn ganolog i bopeth a wnawn.