Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 25 Hydref 2017.
Rwy’n gwerthfawrogi rhai o’r elfennau cynnil yn y ddadl hon heddiw. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi chwarae rôl yn fy ardal i ac nid wyf yn cydnabod iaith methiant, gan y bydd llawer o bobl yn fy nghymuned yn dweud nad yw Cymunedau yn Gyntaf wedi methu, ond ei fod mewn gwirionedd wedi darparu llawer iawn o hwb i bobl sy’n byw yn fy nghymuned. Rwyf wedi gweld y dystiolaeth sy’n dangos y cryfderau yn yr adroddiad. Mae’n cynnwys llawer sy’n ymwneud â gwerth ymgysylltiad ac ymgysylltu â phobl na fuasai wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol fel arall. Rwyf wedi gweld pobl yn mynd o nerth i nerth. Un enghraifft fach iawn yn fy etholaeth: yn fy ward gyngor, pan oeddwn yn gynghorydd, roeddwn yn rhan o’r gwaith o ddymchwel ac ailadeiladu canolfan gymunedol leol ac fe gawsom £400,000 gan y Loteri Fawr. Rwy’n dweud yn bendant, yn sicr, fod yna bobl yn rhan o’r prosiect hwnnw na fuasai wedi chwarae cymaint o ran ynddo pe na baent wedi datblygu’r sgiliau a gawsant trwy Cymunedau yn Gyntaf. Felly, roedd yna fudd pendant, hyd yn oed os nad oedd y budd yn union fel y bwriadai’r prosiect iddo fod bob tro. Felly, rwy’n credu ei bod yn anghywir inni ddefnyddio iaith methiant. Rwyf wedi gweld llefydd fel Cwm Aber, Bargoed, Cefn Hengoed, Graig-y-Rhacca a Pharc Lansbury, i gyd yn elwa o Cymunedau yn Gyntaf.
Gan edrych ar dri argymhelliad a oedd o ddiddordeb i mi a rhai o fy etholwyr: argymhelliad 11, argymhelliad 5 ac argymhelliad 6. Mae argymhelliad 11 yn edrych ar y ffaith bod Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben a’r effaith ar raglenni eraill Llywodraeth Cymru. Rwy’n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad. Yng Nghwm Aber yn fy etholaeth i, ceir dau gorff a oedd yn ddibynnol ar gyllid Cymunedau yn Gyntaf; sef y Ganolfan Galw Heibio i Bobl Ifanc Senghennydd, a grybwyllais o’r blaen, ac YMCA Cwm Aber. Cymerodd y rhain ran mewn prosiectau Cymunedau yn Gyntaf, ond yn anffodus, nid yw’r corff cyflawni arweiniol wedi eu cynnwys yn y targedau ar gyfer cyllid etifeddol. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet eisiau chwarae rôl gyfyngedig yn y meysydd hyn, ond pa gyfleoedd ar gyfer apelio a fyddai ar gael i’r ardaloedd nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y cyllid etifeddol gan y corff cyflawni arweiniol, ar wahân i droi at eu Haelod Cynulliad lleol a gofyn iddynt godi’r materion yma yn y Siambr? Rwy’n credu bod hwnnw’n gwestiwn eithaf pwysig i fynd i’r afael ag ef.
Yr argymhelliad arall yw argymhelliad 5, sy’n mynd i’r afael â chyflogadwyedd. Mae’r argymhelliad yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyflogadwyedd yn ei ystyr ehangaf. Ddoe, soniais am lansio adroddiad y Ffederasiwn Busnesau Bach ar hunangyflogaeth. Gyda Cymunedau yn Gyntaf yn dod i ben, teimlaf na ddylem edrych ar gyflogadwyedd yn unig, ond ar hunangyflogadwyedd a’r rôl y gall hunangyflogadwyedd ei chwarae yn y rhaglen gyflogadwyedd. Ceir 8.7 y cant o weithwyr hunangyflogedig yng nghymunedau’r Cymoedd, sy’n cynnwys Caerffili. Sut y gallwn sicrhau felly fod y nifer hwnnw’n tyfu fel bod y bobl sydd eisiau bod yn hunangyflogedig, yn enwedig menywod, yn gallu dod yn hunangyflogedig? Buasai hynny’n golygu ymgysylltu â cholegau addysg bellach, ysgolion lleol a phobl a fyddai’n gweithredu’n llwyddiannus trwy Cymunedau yn Gyntaf yn yr ardaloedd clwstwr blaenorol.
Yn olaf, ar gyfer fy nghyfraniad, argymhelliad 6. Rydym yn gwybod bod ardaloedd cynnyrch ehangach haen is yn tueddu i eithrio pobl a allai fod yn byw mewn tlodi y tu hwnt i’r ardaloedd hynny ac mae’r cysyniad o allgymorth i’w groesawu’n fawr. Mae Bethan Jenkins eisoes wedi sôn efallai fod angen ehangu rhywfaint ar ein dealltwriaeth o allgymorth, wrth i’r rhaglen ddirwyn i ben. Rhoddodd y comisiynydd plant dystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr wythnos diwethaf, lle y dywedodd y buasai’n hoffi gweld y cynnig gofal plant yn cael ei ymestyn i gynnwys rhieni nad ydynt yn gweithio. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i chi roi diwedd ar gyni i bob pwrpas a buaswn yn deall barn Ysgrifennydd y Cabinet pe bai’n dweud y byddai hynny’n hynod o anodd o fewn cyllidebau presennol—bron yn amhosibl. Fodd bynnag, deallais, o fy nhrafodaeth gyda’r comisiynydd plant, a’r cwestiynau a holais iddi, mai’r hyn y cyfeiriai ato oedd estyn Dechrau’n Deg i bawb, ac unwaith eto, byddai hynny bron yn amhosibl. Fodd bynnag, gan edrych ar faterion allgymorth, ble y gallwn ni fod yn gliriach ynglŷn â sut y gellir cyflwyno allgymorth o fewn ardaloedd awdurdodau lleol? Hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet archwilio hynny mewn cymaint o fanylder ag y bo modd. Felly, rwy’n falch ei fod, unwaith eto, wedi derbyn yr argymhellion hynny.
Rwy’n credu y dylid croesawu’r adroddiad hwn. Rwy’n credu ei fod yn gyfraniad gwerthfawr, trawsbleidiol, annibynnol i’r drafodaeth ar Cymunedau yn Gyntaf ac rwy’n falch fod y Llywodraeth wedi edrych ar hyn mewn ffordd hynod o glir a gonest a chyda meddwl agored, ac edrychaf ymlaen at weld y gwelliannau rwyf wedi’u hawgrymu, ac y mae Aelodau eraill wedi’u hawgrymu, yn cael eu derbyn gan y Llywodraeth, ac rwy’n gwirioneddol gredu y gwnânt hynny.