6. 6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Cymunedau yn Gyntaf — Yr Hyn a Ddysgwyd'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:49, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddweud, yn gyntaf, fod unrhyw un a oedd yn credu y buasai rhaglen gwerth £30 miliwn y flwyddyn yn trechu tlodi braidd yn orobeithiol a dryslyd? Caiff hyn ei ategu gan dystiolaeth cyngor Caerffili. A gaf fi ddweud bod disgwyl i un rhaglen leihau tlodi ar ei phen ei hun yn naïf ac yn afrealistig? Ni fyddwch byth yn trechu tlodi cenedlaethau ag un rhaglen wrthdlodi. Mae wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda rhai pethau, a heb fod mor llwyddiannus mewn perthynas â phethau eraill, ond mewn gwirionedd, ymwneud ag economeg y mae tlodi yn y bôn. Mae rhaglenni gwrthdlodi a rhaglenni cymorth cyflogaeth yn iawn, ond oni bai bod gennych economi gadarn, ni fyddwn byth yn ei drechu.

Rydym hefyd yn gwybod mai’r peth cyntaf y mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n byw mewn ardal gwbl dlawd yn ei wneud, pan fyddant yn cynyddu eu hincwm yn ddigonol, yw symud—maent yn symud i ardal fwy cefnog. Rwy’n credu y bydd y Cadeirydd yn gallu dweud wrthym ynglŷn â hynny. Ond rydym yn gwybod beth yw nodweddion cymunedau tlawd: iechyd gwael; niferoedd uchel o bobl ar fudd-daliadau; y rhai nad ydynt ar fudd-daliadau ar gyflogau isel ac yn gweithio oriau afreolaidd; cyrhaeddiad addysgol isel yn gyffredinol; fawr o lyfrau yn y cartref; ac i lawer, ymdeimlad na all pethau wella. Lle y mae gennych ardal sy’n ddifreintiedig, felly, ac rwy’n dyfynnu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, os edrychwch ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ganddynt hwy y mae fwyaf o rannau o’r system lle y mae angen ymyrraeth, felly maent angen dull amlasiantaethol, gwaith dwys, i roi’r holl ddarnau yn ôl, a sicrhau eu bod yn gweithio eto. Mewn ardal fwy cefnog, lle y mae gennych bocedi llai o dlodi, nid yw’r system wedi torri i’r un graddau, ac felly, bydd angen llai o ymyriadau—ymyriadau mwy penodol—i helpu’r bobl hynny yn ôl ar eu traed.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn:

Mae’r rhaglen wedi cael llwyddiant wrth newid a gwella bywydau unigolion drwy eu cynorthwyo i mewn i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyfleoedd gwaith a gwella eu sgiliau byw.

I ddyfynnu cyngor Abertawe:

Mae gwasanaethau hygyrch yn y gymuned yn caniatáu i staff ddeall cymunedau, gan adeiladu cysylltiadau ac ymddiriedaeth a chynorthwyo pobl sydd wedi ymddieithrio i gymryd rhan a defnyddio gwasanaethau na fyddent wedi ei wneud fel arall.

Gan droi at argymhelliad 1, y credaf ei fod yn hynod o bwysig, beth sy’n mynd i ddigwydd i’r hyn sydd wedi’i wneud? Rwy’n credu nad oes ots os ydych yn ei alw yn Cymunedau yn Gyntaf neu os ydych yn ei alw’n ‘Abertawe yn Gyntaf’ neu os ydych yn ei alw’n ‘Gwella cymuned’. Nid yw o bwys, y teitl—yr hyn sy’n bwysig yw beth sy’n mynd i ddigwydd i’r cynlluniau.

Mae llwyddiannau Cymunedau yn Gyntaf yn Abertawe yn cynnwys—ac fe siaradaf am iechyd yn gyntaf—rhaglenni colli pwysau, gwella deiet, rhaglenni rhoi’r gorau i ysmygu, rhaglenni ymarfer corff. A wnaiff Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg neu Gwella Iechyd Cymru fabwysiadu’r rhain? Oherwydd mae’r rhain yn wirioneddol bwysig, yn fy marn i. Yn llawer rhy aml ym maes iechyd, rydym yn meddwl mai ymwneud â’r ysbytai y mae—mae angen mwy o arian mewn ysbytai; mae angen inni wneud mwy mewn ysbytai. Credaf fod angen i ni wneud mwy i gael pobl yn ffit ac yn iach fel nad ydynt yn gorfod mynd i’r ysbyty. Rwy’n gwybod sut y gall disgwyliad oes mewn rhai o’n hardaloedd tlotaf fod hyd at 10 mlynedd yn llai nag yn rhai o’n hardaloedd mwy cyfoethog. Mae’n rhaid i chi wella ffordd o fyw.

O ran tlodi: prosiect a oedd yn ymdrechu i helpu pobl i leihau eu biliau cyfleustodau; prosiect siop ddillad, a oedd yn ailgylchu dillad diangen; prosiect a oedd yn hyrwyddo’r undeb credyd lleol a chael pobl i roi’r gorau i ddefnyddio benthycwyr carreg y drws, un o’r problemau mwyaf sy’n digwydd yn rhai o’n cymunedau tlotaf. Y benthycwyr carreg y drws hyn, mae rhai ohonynt i fod yn gwmnïau cenedlaethol, ond yn sicr maent yn achosi problemau enfawr ac mae pobl yn gorfod talu cyfraddau llog enfawr, rhai o’n pobl dlotaf. Pwy sy’n mynd i fabwysiadu prosiectau fel hyn?

Mae cyrhaeddiad addysgol isel yn un o brif achosion tlodi. Roedd prosiectau’n blaenoriaethu gwell cyrhaeddiad addysgol drwy helpu oedolion yn ôl i addysg. Câi prosiectau dysgu fel teulu eu gweithredu mewn partneriaeth ag ysgolion lleol. Roedd sesiynau clybiau gwaith cartref yn targedu plant a rhieni nad oes ganddynt gyfleusterau TGCh a rhyngrwyd yn y cartref gan gynorthwyo pobl ifanc gyda’u haddysg. Roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi fy magu ar adeg pan nad oeddwn yn ddifreintiedig, am nad oedd gan unrhyw aelwyd fwy o lyfrau nag y gallwn eu cael o’r llyfrgell leol. Erbyn hyn, mae yna rai sy’n gyfoethog mewn TGCh a rhai sy’n dlawd mewn TGCh, ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr i gyrhaeddiad addysgol llawer iawn o blant. Rwy’n credu mai un o fy ofnau mwyaf ar hyn o bryd yw eich bod yn mynd i fod dan anfantais yn blentyn bellach os ydych yn dlawd yn awr ac nad oes gennych fynediad at yr holl gyfarpar TGCh. Roedd grŵp rhieni a phlant bach yn anelu at wella datblygiad a dysgu plant cyn ysgol. Roedd clwb gwaith cartref yn darparu cymorth i blant gyda’u gwaith cartref ac yn bwysicach, cyfleusterau TGCh iddynt allu gwneud hynny. Roedd yna gynllun hefyd a anogai amgylchedd dysgu yn y cartref teuluol. Pwy sy’n mynd i fabwysiadu’r rhain?

Ar Dechrau’n Deg, mae’r hyn a welodd Cadeirydd y pwyllgor yng Nghasnewydd yn cael ei ailadrodd yn Nwyrain Abertawe, lle y mae ardaloedd cymharol gefnog yn ystumio’r data, felly nid yw’r ardaloedd tlotaf yn Abertawe—Plas-marl, terasau Plas-marl—yn cael Dechrau’n Deg. Eto i gyd, mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae gennyf dai sengl mawr mewn ardal Dechrau’n Deg am eu bod yn agos at ystâd dai cyngor dlawd iawn. Ni all hyn fod yn iawn, ac rwy’n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn sicrhau bod Dechrau’n Deg yn targedu unigolion ac nad yw’n seiliedig ar fod rhywun sy’n byw 10 stryd i ffwrdd yn gyfoethog.