Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 25 Hydref 2017.
A gaf fi atgoffa’r Aelodau am y buddiant rwyf wedi ei ddatgan am fod fy ngŵr yn bartner mewn busnes twristiaeth? Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n dal i obeithio mai cocyn hitio braidd yw’r dreth wely a’i bod wedi ei chynnwys yn y rhestr o drethi Llywodraeth Cymru sy’n cael eu hystyried er mwyn i chi gael eich gweld fel Llywodraeth sy’n gwrando pan fyddwch yn troi cefn ar y syniad. Ar hyn o bryd, mae ychydig fel bygwth plentyn gyda sbigoglys i frecwast am ei fod yn dda iddynt, a honni wedyn eich bod yn drugarog pan na fyddwch yn cyflawni’r bygythiad hwnnw. Yr holl amser, wrth gwrs, mae’r plentyn druan yn ystyried y bygythiad fel cosb am ryw ddrygioni anhysbys nad yw’n ei haeddu, a dyna sut y mae’r sector twristiaeth yn teimlo ar hyn o bryd.
Mae aelodau o’r grŵp twristiaeth trawsbleidiol, a oedd yno ar fy ngwahoddiad fel cadeirydd, nid oherwydd bod Darren Millar yn eu hannog, aelodau sy’n cynrychioli mwy—llawer iawn mwy—na 305 o bobl ac sy’n cynrychioli pob rhan o economi ymwelwyr Cymru, yn nerfus iawn am y ffaith bod hyn yn cael ei ystyried hyd yn oed. Mae cynghorau yn Lloegr ar y ffin â Chymru’n gofyn: a fydd yn dda iddynt, neu a fyddant yn colli busnes oherwydd bod eu cynnig marchnata’n croesi’r ffin? Maent i gyd wedi gweld dinasoedd sy’n gyrchfannau byd-eang fel Caeredin a Chaerfaddon, a hyd yn oed cymunedau fel Camden, yn tynnu’n ôl yn eithaf cyflym pan welsant y goblygiadau ehangach a gofyn,’Pam fod Cymru’n meddwl am hyn?’ Nid oes neb am agor y llifddorau i’r DU godi treth wely pan fo’r gwelyau hynny eisoes yn amlwg yn ddrutach na rhai cyfatebol mewn gwledydd eraill. Ac ydw, rwy’n gwybod mai mater i Lywodraeth y DU yw TAW, ac fel chi ac Aelodau Seneddol o bob plaid, gan gynnwys fy mhlaid fy hun, rydym yn credu bod yna ddadl gref dros leihau TAW, ond ni allwn wneud y penderfyniad hwnnw yn y Siambr hon. Yr hyn y gallwn ei wneud yma yw cytuno i beidio â gosod trethi pellach ar ein twristiaid.
Hoffwn ddefnyddio fy esiampl fy hun i ddangos pam y mae TAW uchel yn gwrth-ddweud y pwynt a wnaed gan lawer nad ydym ond yn sôn am ychydig bunnoedd ac na fydd neb yn sylwi. Mae Rhufain yn gyrchfan fyd-eang, a bydd pobl yn bendant yn talu mwy i fynd yno. Rydych yn talu treth wely ar ben eich TAW o 10 y cant, ond os nad yw’n cael ei hysbysebu’n eang, gall fod yn dipyn o syndod i ymwelwyr. Ac roedd yn syndod o 12.5 y cant i fy nheulu pan aethom ym mis Chwefror, ar gyllideb, i weld y rygbi. Rydych yn sylwi ar €35 ychwanegol pan na fyddwch ond yn bwriadu gwario €280. A fyddai’n fy rhwystro rhag mynd i Rufain yn hytrach nag i Lundain? Nid wyf yn credu y byddai. A fyddai’n fy rhwystro rhag mynd i Aberystwyth yn hytrach nag i Whitby? Wel, mae’n bosibl, wyddoch chi. Gadewch i ni gofio, ar hyn o bryd, fod y rhan fwyaf o ymwelwyr â Chymru yn dod o’r tu mewn i’r DU ac maent eisoes yn wynebu’r baich treth trymaf, yn gyffredinol, o gymharu â’n cymheiriaid Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae cyllideb ar gyfer y gwyliau yn nodwedd ym mhenderfyniadau pawb, ac nid ydym am i drethi gwely sy’n gymedrol hyd yn oed effeithio ar y penderfyniadau hynny a gwrthdroi’r tueddiadau da iawn mewn twristiaeth yng Nghymru ar hyn o bryd.
Rwyf am sôn yn benodol am Barcelona, a pham y cyflwynwyd y dreth dwristiaeth yno. Dyma rywbeth a drafodais yn uniongyrchol gydag asiantaeth dwristiaeth Catalonia a thwristiaeth Barcelona pan ymwelais â hwy’n fuan ar ôl i’r dreth gael ei chyflwyno. Roedd dau reswm yno. Y rheswm cyntaf oedd mai twristiaeth, yn sgil yr argyfwng ariannol, oedd y cyfan a oedd ganddynt ar ôl, yn y bôn, a oedd yn gwneud arian—y cyfan a oedd ar ôl ganddynt i’w drethu. Cyflwynwyd y dreth wely i gynorthwyo adferiad economaidd y rhanbarth, gyda 25 y cant o’r derbyniadau hynny’n mynd at iechyd ac addysg. Âi’r arian a oedd yn weddill i gronfa datblygu twristiaeth, ac roedd y sector ei hun yn talu arian ychwanegol i mewn iddi’n uniongyrchol drwy ei siambrau masnach. Defnyddiwyd yr arian hwnnw i gefnogi cynnig twristiaeth o safon, ond cafodd ei ddefnyddio hefyd i ddatblygu twristiaeth yn y fath fodd fel ei fod yn cydbwyso’n well â phrofiad byw trigolion.
Dyna oedd yr ail reswm: roedd trigolion y rhanbarth yn dechrau gwrthwynebu’r ffordd y câi eu safon byw ei effeithio gan gwymp economaidd sectorau ar y naill law, a’r ffordd yr effeithid ar ansawdd eu bywydau gan y nifer fawr iawn o dwristiaid yn eu gofod, yn gwthio costau nwyddau a gwasanaethau i fyny. I’r gynulleidfa benodol honno, cafodd y dreth wely ei defnyddio fel rhwystr a ffordd o gydbwyso niferoedd. Beth bynnag, rwy’n credu ei bod yn werth nodi, mae’n debyg, nad oedd mwyafrif Senedd Catalonia yn cefnogi cyflwyno’r dreth, a’r unig reswm y cafodd ei phasio oedd o ganlyniad i nifer sylweddol a ataliodd eu pleidlais. Rhan o’r rheswm am hynny oedd bod Ryanair yn derbyn cymorthdaliadau enfawr i ddod â thwristiaid teithiau rhad i feysydd awyr llai yn y rhanbarth. Tybed ai’r math hwn o gefnogaeth ddryslyd ac anghyson i’r sector yw’r hyn sydd gan gefnogwyr y dreth dwristiaeth mewn golwg. Diolch.