Part of the debate – Senedd Cymru am 1:06 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Pan gyrhaeddais i'r lle hwn am y tro cyntaf ryw 10 mlynedd a hanner yn ôl, roeddwn i'n disgwyl iddo fod yn blwyfol iawn a'r wleidyddiaeth yn bleidiol iawn. Yn naturiol, mewn rhai ffyrdd dyna sut oedd pethau. Fodd bynnag, y cawr diymhongar hwn wnaeth fy argyhoeddi i nad oedd fel hynny ac nid yw fel hynny y tu allan i'r Siambr hon. Cynhesrwydd, hoffter a charedigrwydd Carl a'm hargyhoeddodd i y dylai ein gwleidyddiaeth bleidiol aros yn y Siambr hon, a'r tu allan, ac mai ein dynoliaeth ni ddylai ddod yn gyntaf bob tro. Dyna pam yr oedd bob amser yn bleser cael bod yn ei gwmni ac roeddwn i bob amser yn mwynhau cael diod gyda'r dyn mawr.
Wrth gwrs, roedd yn amlwg bod ganddo gariad mawr tuag at y Blaid Lafur ac roedd yn amlwg bod ganddo gariad mawr at ei etholaeth ac at gynrychioli ei ardal leol. Roedd ei ymroddiad a'i ymrwymiad i'r bobl yr oedd yn eu cynrychioli bob amser yn amlwg yn yr holl drafodaethau a gefais i gydag ef. Roeddwn i'n cael hwyl yn ei gwmni ac roedd direidi yn ei lygaid bob amser. Bob tro y byddwn yn ei weld, roedd yn llawn o'r feddylfryd direidus hwnnw. Fyddech chi byth yn gwybod beth fyddai'n ei ddweud, ac roedd hynny'n gwneud ei gwmni'n fwy difyr byth.
Roedd yr hwyl honno yn sicr yn amlwg ychydig flynyddoedd yn ôl, pan wnaeth rhai ohonom ni yn y Siambr hon ddathlu pen-blwydd Lesley Griffiths. Rwy'n cofio inni gyrraedd tafarn adnabyddus ym Mae Caerdydd ac rwy'n cofio sefyll wrth y bar pan, yn sydyn, dyma fi'n clywed cyfeillion a chydweithwyr o'm cwmpas yn chwerthin. Edrychais draw, a'r cyfan a welais i oedd Carl yn pwyntio at ei siwmper. Wedyn, o edrych ar y dillad oedd amdanaf i, sylweddolais, er cryn fraw i mi, ein bod yn gwisgo'r un siwmper yn union. Ond nid dim ond hynny. Yn wir, roeddem ni'n dau yn gwisgo trowsus tywyll hefyd ac, wrth gwrs, fel y byddech yn ei ddisgwyl, dechreuodd rhywun ein galw ni'n efeilliaid. I'r rhai hynny ohonoch chi sydd wedi gweld y ffilm Twins o 1988, sy'n serennu Arnold Schwarzenegger a Danny DeVito—wel, mynnodd Carl am weddill y noson mai ef oedd Danny DeVito ac nid fi.
Dyna'r hyn y byddaf i bob amser yn ei gofio am Carl. Bob tro yr oeddwn gydag ef, byddem yn chwerthin. Ond roedd yn wleidydd difrifol ac ymroddedig a oedd yn gofalu am ei etholwyr, ac roedd yn deall pobl. Roedd yn deall pobl. Wedi'r cyfan, mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â phobl ac roedd Carl yn sicr yn deall hynny.
Llywydd, yn bersonol, byddaf yn gweld eisiau'r gwrthwynebydd gwleidyddol. Byddaf yn gweld eisiau ei gellwair yn y lle hwn. Byddaf yn gweld eisiau ei sylwadau doniol yn y Siambr hon. Ond yn bwysicach na dim, byddaf yn gweld eisiau ffrind personol.