Part of the debate – Senedd Cymru am 1:16 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Yn gyntaf oll, rwyf yn estyn fy nghydymdeimlad dwfn â theulu a chyfeillion Carl Sargeant, ac yn enwedig y rheini yn y Cynulliad a oedd yn ei adnabod yn dda iawn ac a oedd hefyd yn ffrindiau gydag ef. Gwnaf hynny ar ran fy hun ac ar ran fy nghydweithwyr ym Mhlaid Cymru yma, ond hefyd ar ran y cydweithwyr ym Mhlaid Cymru nad ydynt yma bellach ac a arferai weithio gydag ef yn y gorffennol.
Deuthum i adnabod Carl i ddechrau, fel llawer, rwy'n meddwl, yn 2007, pan ddaeth yn Brif Chwip i'r Blaid Lafur a phan gefais i fy mhenodi'n ymgynghorydd arbennig ar ran Plaid Cymru yn y Llywodraeth glymblaid. Ar ôl i'r glymblaid gael ei ffurfio'n ofalus, y peth cyntaf wnes i oedd sylweddoli bod Carl fel draenen yn yr ystlys i raddau, oherwydd roedd yn aelod ychwanegol o'r Cabinet na ddylai fod wedi bod yno. Beth oedd Prif Chwip yn ei wneud yn bresennol yn y Cabinet pan oeddem wedi rhoi ystyriaeth ofalus i nifer y Gweinidogion a'r Dirprwy Weinidogion a'r cydbwysedd rhwng y pleidiau? 'A oedd hyn yn mynd i fod yn broblem?', pendronais. Wel, fel y clywsom eisoes gan Ann Jones, a gafodd, rwy'n meddwl, ddigon i'w wneud â Carl yn ystod yr amser hwnnw, nid oedd hynny'n broblem, oherwydd er bod Carl yn gwbl gyfforddus ac yn gwbl fodlon yn ei deulu Llafur, gallai ymestyn y tu hwnt i hynny, nid yn unig i fod yn ffrind personol i bobl, ond i sicrhau cynghreiriaid gwleidyddol. Rydym eisoes wedi clywed teyrnged Bethan Jenkins—a byddai hi, wrth gwrs, wedi bod eisiau bod yma—ond mae'r ffaith ei bod hi a Carl, dim ond dwy neu dair wythnos yn ôl, yn sefyll ar y strydoedd yn gwerthu copïau o'r Big Issue gyda'i gilydd yn dangos ichi, rwy'n credu, y ffordd yr oedd yn gallu codi uwchlaw'r cysur hwnnw o fewn ei deulu Llafur, ac ymestyn y cysur hwnnw i eraill sy'n rhannu ei werthoedd ac sy'n rhannu ei amcanion. Felly, nid oedd, mewn gwirionedd, yn broblem fel Prif Chwip y Llywodraeth yn y Llywodraeth glymblaid honno; roedd yn rhan o'r mecanwaith a gyflawnodd Llywodraeth effeithiol. Yn gwbl briodol, yn fy marn i, fe'i penodwyd wedyn, yn Weinidog yn Llywodraethau'r dyfodol.
Ond rwyf hefyd yn ei gofio ar lefel bersonol. Deuthum i yn wreiddiol o Aberdâr; daeth ef o Gei Connah. Mae'n debyg mai prin yr oedd wedi bod i Gaerdydd cyn iddo gael ei ethol yma, eto gwyddai am leoedd yng Nghaerdydd nad oeddwn i'n gwybod amdanynt. [Chwerthin.] Roedd yn gwybod ble i fynd ar nos Fercher pan oeddem yn gadael y fan hon, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddo, ac yn dal i fod, ac rwyf eisiau ichi wybod, fel rhywun a oedd yn weddol newydd i'r Cynulliad ar yr adeg honno, roedd yn hael â'i amser gyda mi. Gwelais ef yn dawnsio mewn ffordd nad oeddwn wedi gweld unrhyw un yn dawnsio cyn hynny ac yn canu karaoke, yn sicr. Roedd yn ganwr ac yn ddawnsiwr llawer gwell na mi—yn well na'r rhan fwyaf ohonom, rwy'n credu. Ac nid oedd yn rhaid iddo fod yn hael â'i amser gydag un o gynghorwyr arbennig Plaid Cymru. Roedd yn hael, ac mae hynny'n dangos pa fath o ddyn oedd Carl.
Credaf hefyd ei fod yn fy atgoffa i o lawer o ddynion yn fy nheulu i—dynion dosbarth gweithiol, ychydig yn hŷn, efallai, na Carl—y genhedlaeth nesaf, a oedd mewn gwirionedd wedi'u gadael ar ôl gan ddad-ddiwydiannu ac a oedd wedi dioddef canlyniadau hynny. Roedd Carl yn codi uwchlaw hynny. A bydd y dilysrwydd y mae pobl wedi sôn amdano, ei allu i gymryd y cefndir hwnnw, ei ddefnyddio o'r newydd mewn amgylchedd cwbl newydd a bod yn driw i'w hun wrth wneud hynny, yn rhywbeth a fydd yn aros gyda mi.
Roedd ganddo hefyd archwaeth Stakhanovite, rwy'n credu—ac rwy'n golygu ar gyfer deddfwriaeth, wrth gwrs, fel y soniwyd eisoes. Ond roedd yn gwneud hynny hefyd gyda synnwyr digrifwch. Roeddwn i ar yr un pwyllgorau ag ef dros y blynyddoedd ac weithiau roeddwn i'n meddwl tybed a oedd e'n cymryd y ddeddfwriaeth hynny o ddifrif, mewn gwirionedd, oherwydd ei synnwyr digrifwch. Ond, wrth gwrs, roedd hyn yn rhan o'r ffordd yr oedd yn hwyluso'r broses o gyflwyno'r ddeddfwriaeth. Roedd yn hollol ddifrifol am yr hyn yr oedd yn ei gyflawni, ac roedd ei allu wrth lwyddo i basio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn fy marn i, yn un o gyflawniadau gorau unrhyw ddeddfwrfa, ac fe'i cyflwynwyd yma ac roedd yn gwneud y gwaith hwnnw ar gyfer ac ar ran pob un ohonom ni.
Nawr, rwy'n byw ar ystad cyngor fy hun—un a fabwysiadwyd gennyf; nid yr un y cefais fy ngeni ynddi. Yr ystad ym Mhenparcau yn Aberystwyth yw hon. Roedd Carl, ymhen pythefnos, yn dod i agor ein cyfleuster cymunedol diweddaraf. Roedd ei ymrwymiad i'r cyfleuster yn amlwg gan ei fod wedi fy holi yn gyson ynghylch ei ddatblygiad, ac roedd wedi bod yn agored ynghylch sut yr oedd y gymuned honno yn dod at ei gilydd ar ôl Cymunedau yn Gyntaf, ac yn gweithio ar ran y bobl dlotaf yn y gymuned honno. Dangosodd yr un faint o ofal, rhoddodd yr un sylw a holi'r un cwestiynau am gymuned fach y tu allan i Aberystwyth ag y gwnaeth am y gymuned yr oedd ef yn ei chynrychioli, ac rwy'n credu bod hynny'n destament i'w gyfraniad.