Part of the debate – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Diolch, Llywydd. Roedd Carl Sargeant, yr Aelod Cynulliad dros Alun a Glannau Dyfrdwy yn ffrind i mi, mae yn ffrind i mi, a bydd yn ffrind i mi am byth. Nid oes geiriau yn ddigon trist i fynegi'r golled. Bernie, gwraig Carl, a Jack a Lucy, ei fab a'i ferch, rwyf eisiau ichi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hunain. Mae llawer o Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru hwn a oedd yn caru ac yn parchu Carl. Fel ffeminist falch, rwyf yn dymuno iddo gael ei nodi yn y cofnod na fu unrhyw Aelod Cynulliad arall, yn y ddau ddegawd o ddatganoli yng Nghymru, mor angerddol i hyrwyddo cynnydd hawliau ac achosion menywod a phlant drwy ddeddfwriaeth na Carl Sargeant. Nododd un o ohebwyr blaenllaw Cymru, Martin Shipton, fod Carl, fel y Gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol, wedi dod yn adnabyddus fel hyrwyddwr cydraddoldeb a hawliau menywod a chefnogodd gyfres o fentrau gyda'r nod o fynd i'r afael â thrais yn y cartref.
Roedd Carl yn ffrind i mi ond roedd hefyd yn ffrind i'r bobl yr wyf yn eu cynrychioli, pobl Islwyn. Roedd Carl yn gwbl ddilys; yn wleidydd dosbarth gweithiol o'r iawn ryw, roedd yn siarad iaith y dyn a'r fenyw ar y stryd. A phan ymwelodd ag Islwyn, roedd yr hoffter yn amlwg. Roedd ei afiaith a'i gwrteisi yn amlwg i bawb a oedd yn cwrdd ag ef. Roedd Carl yn gwbl groes i'r gwleidydd caboledig, ffug. Ac fel ymgeisydd balch i Islwyn, pan gyfarfûm ag ef am y tro cyntaf, roeddwn yn meddwl beth ar y ddaear oedd wedi cyrraedd pan welais ef. Cefais fy nghyfarch gan ddyn mawr, mewn siwmper lwyd dywyll gyda thwll ynddi, a oedd wedi gweld dyddiau gwell. Yn ddiweddarach, sylweddolais ei fod ef a'i gyd-Aelod agos Ken Skates wedi bod yn gweithio'n ddiflino, yn teithio ar hyd a lled y wlad gyda'i gilydd, yn ymladd dros y Llywodraeth Lafur nesaf. Roedd yn gwbl ddilys.
Ac ym mis Mai 2016, pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad, nid oedd neb yn fwy caredig, cyfeillgar ac awyddus i wneud yn siŵr fy mod i'n cynefino â bywyd yn y Senedd na Carl. Roedd yn negodwr ac yn gyfathrebwr dawnus. Nid oedd yn hunandybus nac yn falch, ond yn ddyn gostyngedig, hael ei ysbryd, ac—yn brin mewn gwleidyddiaeth—roedd Carl yn dod â gwên i'r ystafell a fyddai yn aml yn achosi chwerthin, pa bynnag faterion pwysig yr oedd yn bwrw ymlaen â nhw.
Gwn fod fy rhagflaenwyr Llafur, Aelodau Cynulliad Islwyn, Irene James a Gwyn Price, yn cytuno â mi a phobl Islwyn wrth ystyried Carl Sargeant yn gydymaith yng ngwir ystyr y gair. Rydym ni'n galaru amdano heddiw. Ac mae'n annioddefol bron i gredu y bu farw heb wybod faint yr oeddem yn ei garu a'i barchu, ac rwyf yn wirioneddol drist am hynny.
Roedd Carl yn ddyn ar gyfer pob achlysur: barn y bobl o ran beth ddylai gwleidydd fod, nid dim ond yn berson pobl, ond gwleidydd y bobl; sosialydd, nad anghofiodd byth ei wreiddiau, na'i gymuned, a garai gymaint.
Carl, roeddwn i'n dy ystyried yn ffrind, ac ni fydd y lle hwn byth yr un fath i mi heb dy bresenoldeb di. Bydd dy waddol deddfwriaethol blaengar ac arloesol, a'r atgof amdanat, yn parhau i ysbrydoli ac ysgogi pob un ohonom i greu gwell Cymru, gwell cymdeithas. Ac, ar yr adeg dywyllaf hon, rwy'n cofio geiriau Louise Haskins:
'Go out into the darkness and put your hand into the Hand of God. That shall be to you better than light and safer than a known way.'
Nid wyt ti ar ben dy hun; rydym ni'n sefyll gyda ti. A, Carl, rydym ni'n galaru amdanat yn fawr. Diolch.