Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Rwy'n credu bod arweinydd Plaid Cymru wedi codi pwynt eithriadol o bwysig, sef: sut gallwn ni greu proses gwynion sy'n wahanol—nid yn wannach, ond yn wahanol—proses gwynion sy'n cefnogi pob parti? Mae'n rhaid i ni fod yn onest: gwlad fach ydym ni a phleidiau bach ydym ni i gyd. Credaf fod rhinwedd mawr mewn ymchwilio, gyda'r Llywydd, sut y gallai'r Comisiynydd Safonau newid swyddogaethau o'r swyddogaeth bresennol. Rwy'n credu fod hynny'n rhywbeth y gellid cael trafodaeth ddefnyddiol yn ei gylch ymhlith y pleidiau.