Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:18, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Ac rwy'n credu y gallwn ni dybio, Prif Weinidog, cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth yn dod ar gael, y byddech chi'n barod i'w rhannu gyda'r Cynulliad hefyd. Ar ôl yr wythnos diwethaf, ceir cwestiynau ynghylch sut y gallwn ni sicrhau yr ymdrinnir â datgeliadau mewn ffordd sy'n deg i bawb dan sylw. Nawr, rwyf wedi canfod fy hun yn gofyn: sut mae gennym ni fel pleidiau gwleidyddol yr adnoddau a'r personél sydd wedi'u hyfforddi i ymdrin â honiadau ac i weithredu mewn ffordd dryloyw, neu a ellid ymdrin â nhw mewn ffordd fwy annibynnol yn y dyfodol? Efallai y byddai mwy o ymddiriedaeth mewn awdurdod niwtral ac annibynnol, a fyddai'n fwy diduedd, yn fwy tryloyw nag y gall pleidiau gwleidyddol fod.

Nawr, efallai na fydd gan swyddfa'r Comisiynydd Safonau yr adnoddau ar hyn o bryd i ymdrin â datgeliadau o aflonyddu neu gamymddwyn arall yn llawn. Ceir cwestiwn hefyd ynghylch cosbau—pa fath o gosbau y gellid eu rhoi ar bobl. A ydych chi'n credu y gellid rhoi adnoddau gwell i swyddfa'r Comisiynydd Safonau, ac y dylai hefyd ystyried cosbau ystyrlon i ymdrin â datgeliadau o'r fath?