Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Prif Weinidog, dylai ardaloedd menter fod yn ffordd wych o adfywio rhai o ranbarthau mwyaf difreintiedig Cymru, ond mae'r realiti braidd yn wahanol. Mae rhai o'r ardaloedd yn gweithio'n dda, gan ddenu buddsoddiad preifat ac adfywio eu heconomi leol. Mae eraill yn gweithredu oherwydd cyllid y Llywodraeth yn unig, ac yn cynnal llond llaw o swyddi. Prif Weinidog, pe byddai'r ardaloedd menter yn wirioneddol lwyddiannus, ni fyddai tir ar gael i adeiladu carchar yn unrhyw un o'r ardaloedd. Beth mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud yn wahanol i sicrhau bod yr holl ardaloedd menter yn denu buddsoddiad sector preifat a seilwaith i'w rhanbarthau perthnasol ac yn creu swyddi newydd i bobl leol?