Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Wel, maen nhw'n gwneud hynny, ond, wrth gwrs, bydd rhai'n tyfu'n gyflymach nag eraill. Bydd rhai rhannau o Gymru sydd, oherwydd eu lleoliad a'u daearyddiaeth, yn ei chael yn haws nag ardaloedd menter eraill. Ond dyna'r hyn y mae ardal fenter wedi ei chynllunio i'w wneud—goresgyn rhai o'r anawsterau hynny. Fel y dywedais yn gynharach, mae'n rhaid i ni farnu ardaloedd menter ar yr hyn y maen nhw'n ei gyflawni yn y tymor hwy, oherwydd, wrth gwrs, gwneir llawer o fuddsoddiad mewn seilwaith, gwneir buddsoddiad mewn hyfforddiant yn aml a thrwy ddatblygu'r buddsoddiad hwnnw yr ydym ni'n gweld swyddi'n cael eu creu yn y tymor hwy wedyn.