Ardaloedd Menter

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:26, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ym mis Gorffennaf, gwnaeth eich Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddatganiad ar ardaloedd menter pryd y dywedodd fod y rhaglen ardaloedd menter,

'yn parhau i gyfrannu at amcanion Llywodraeth Cymru sydd wedi'u nodi yn ein Rhaglen Lywodraethu', ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr. Fis diwethaf, mewn llythyr ataf i, dywedodd bod y strategaeth ar gyfer ardal fenter Glannau Port Talbot—a dyfynnaf— yn seiliedig ar safleoedd cyflogaeth sefydledig yn yr ardal sydd â chapasiti sylweddol i gefnogi buddsoddiad busnes pellach.  

Aiff yn ei flaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn parhau i adeiladu ar y sgiliau gweithgynhyrchu uwch o'r radd flaenaf yn yr ardal i greu swyddi a chyflogaeth.

Nawr, rwy'n llwyr gefnogi'r uchelgais hwnnw a chyfeiriad y twf economaidd ar gyfer Port Talbot ac eisiau gweld hyn yn dwyn ffrwyth, yn enwedig gan fod dyfodol tymor hir y gwaith dur yn dal yn aneglur heb gael y manylion eto ar y fenter ThyssenKrupp/Tata ar y cyd honno a heb gael manylion penodol y gwaith o ail-leinio ffwrnais chwyth Rhif 5 eto. Ond Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r ardal fenter ym Mhort Talbot yn cynnwys parc diwydiannol Baglan gyda'i gyfamod cysylltiedig, sy'n dweud ei fod i'w ddefnyddio at ddibenion diwydiannol. Felly, a gaf i ofyn i chi wrando nid yn unig ar fy llais i ond ar leisiau dros 8,500 o'm hetholwyr a gwrthod cynigion gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ddefnyddio'r tir hwnnw ar gyfer carchar ac yn hytrach i gadw at gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl dir yn yr ardal fenter i gefnogi buddsoddiad busnes sy'n darparu twf economaidd ac yn creu swyddi yn seiliedig ar y sail sgiliau ym Mhort Talbot? Gallaf ddweud wrthych na fydd carchar yn gwneud hynny.