Ardaloedd Menter

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:27, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Mae fy ffrind, yr Aelod dros Aberafan wedi bod yn eiriolwr cryf dros safbwyntiau—rwyf wedi eu gweld—llawer o bobl yn ei etholaeth sy'n gwrthwynebu'r carchar. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi ysgrifennu llythyr at y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Rydym ni wedi gofyn am eglurhad brys o ran nifer o gwestiynau yr ydym ni wedi eu gofyn. Nid wyf wedi gweld ymateb eto, ond bydd yr ymateb i'r llythyr hwnnw yn llywio ein hystyriaeth bellach o ran sut y gellid defnyddio'r tir.