Masnachfraint Cymru a'r Gororau

Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 14 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:41, 14 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ysgrifennu at yr Aelod gyda'r union ddata y gwnaeth Trenau Arriva Cymru hysbysu Trafnidiaeth Cymru ar y sail honno? Fel y dywedaf, nid yw'n anghyffredin i gynigwyr ar gyfer prosiectau mawr dynnu'n ôl yn ystod y broses dendro. Gwnaeth Arriva hi'n eglur eu bod wedi gwneud hyn am eu rhesymau masnachol eu hunain, a byddaf yn rhannu'r hyn y gallaf gyda'r Aelod o ran gwybodaeth ynghylch penderfyniad Arriva. Yr hyn y gallaf—bydd rhai materion, yn amlwg, na allaf eu datgelu, am resymau masnachol rwy'n amau.