2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Tachwedd 2017.
9. A wnaiff y Prif Weinidog datganiad ynglŷn â gwaith paratoi ar gyfer y broses o wobrwyo masnachfraint Cymru a'r Gororau? OAQ51291
A gaf i gyfeirio'r Aelod at y datganiad pellach a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar 6 Tachwedd ynghylch caffael gwasanaeth trenau Cymru a'r gororau?
Diolch i'r Prif Weinidog. Rydw i wedi darllen y datganiad hwnnw, wrth gwrs, a oedd yn cael ei ryddhau yn sgil y ffaith bod Trenau Arriva Cymru wedi tynnu mas o'r broses masnachfreintiau, fel petai. O ddarllen drwy'r llinellau a'r adroddiadau o gwmpas hynny, mae hynny yn troi o gwmpas bod Arriva wedi penderfynu nad oes gwerth masnachol bellach yn y fasnachfraint, gan gynnwys, wrth gwrs, y metro ac adeiladu ar y metro. Mae hynny, yn ei dro, yn adlewyrchu'r ffaith bod, o hyd, ddibyniaeth ar sybsidi o San Steffan, a'r cyfrifoldeb yn cael ei drosglwyddo ar San Steffan, gan nad yw'r broses yma wedi'i chwblhau gan eich Llywodraeth chi. Felly, beth ydych chi'n gallu ei ddweud heddiw sy'n rhoi sicrwydd i deithwyr yng Nghymru, a hefyd y staff ar drenau Arriva yng Nghymru, bod y swyddi yn parhau, bod y gwasanaethau yn parhau, ac na fydd unrhyw broblem yn darparu'r fasnachfraint yma fel rydych chi wedi addo?
Wel, yn gyntaf, wrth gwrs, mae yna faterion rydym ni'n gorfod eu trafod gyda'r Adran Drafnidiaeth yn Llundain. Nid oes problem nawr, hyd y gwn i, ynglŷn â symud ymlaen gyda’r broses. Nid yw’n rhywbeth anarferol i gwmni dynnu mas. Mae hynny yn digwydd, ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod cwmnïau yn dal i fod yn rhan o’r broses.
A gaf i ddweud taw beth y byddwn i wedi hoffi ei weld yw sefyllfa lle byddai'r cyllid wedi ei drosglwyddo, o leiaf sefyllfa lle y byddem yn gallu cyfeirio neu gyfarwyddo Network Rail—nid yw hynny wedi cael ei roi inni—ac, wrth gwrs, y cyfle i redeg y franchise fel corff arm’s length yn y sector gyhoeddus, sy'n rhywbeth sydd wrth gwrs ar gael i'r Alban ond sydd ddim wedi cael ei roi i Gymru—rhywbeth yr ydym ni’n hollol ddig amdano? Felly, nid oes rheswm nawr pam na ddylai hwn gael ei symud ymlaen, ac, wrth gwrs, mae hynny’n rhywbeth yr ydym ni'n moyn ei sicrhau er mwyn sicrhau cael gweld gwasanaeth gwell i bobl Cymru.
Prif Weinidog, rydych chi'n gwbl gywir i ddweud bod penderfyniad Arriva i adael y broses ymgeisio a'r broses fasnachfraint yn digwydd. Ni ddylem gynhyrfu'n ormodol am gynigydd yn penderfynu nad yw'n addas iddo fe. Fodd bynnag, pryd oeddech chi'n gwybod eu bod nhw'n tynnu'n ôl? A oedd hwn yn benderfyniad sydyn? A roddwyd rhybudd ymlaen llaw ganddynt? Rwy'n meddwl tybed: a dderbyniodd Llywodraeth Cymru unrhyw adborth gan y cwmni a'r staff dan sylw a fyddai o fudd nawr, wrth symud ymlaen â gweddill y broses? Oherwydd, yn amlwg, pe byddai busnesau masnachfraint eraill yn tynnu'n ôl hefyd, yna gallem ni ganfod ein hunain mewn sefyllfa anodd yn ddiweddarach i lawr y lein, fel petai.
A gaf i ysgrifennu at yr Aelod gyda'r union ddata y gwnaeth Trenau Arriva Cymru hysbysu Trafnidiaeth Cymru ar y sail honno? Fel y dywedaf, nid yw'n anghyffredin i gynigwyr ar gyfer prosiectau mawr dynnu'n ôl yn ystod y broses dendro. Gwnaeth Arriva hi'n eglur eu bod wedi gwneud hyn am eu rhesymau masnachol eu hunain, a byddaf yn rhannu'r hyn y gallaf gyda'r Aelod o ran gwybodaeth ynghylch penderfyniad Arriva. Yr hyn y gallaf—bydd rhai materion, yn amlwg, na allaf eu datgelu, am resymau masnachol rwy'n amau.
Ychydig wythnosau yn ôl, fe ddaeth i’r amlwg na fydd trenau newydd gwasanaeth Great Western Railway, sydd yn gwasanaethu de Cymru, yn cynnwys unrhyw arwyddion na chyhoeddiadau yn y Gymraeg. Fel y disgwyl, roedd yna nifer o gwynion i’r cwmni gan deithwyr, yn dilyn y newyddion yma, yn condemnio’r penderfyniad, gan gynnwys, gyda llaw, gan gyn-Weinidog y Gymraeg, Alun Davies. Esgus y cwmni oedd bod y trenau hyn yn gwasanaethu ardaloedd yn Lloegr hefyd, ac felly na fuasai defnyddio arwyddion a gwneud cyhoeddiadau dwyieithog yn addas. Yn ddiddorol, mae rhai teithwyr yn Lloegr wedi mynegi cefnogaeth i gael y Gymraeg yn Lloegr, gan sôn am eu profiadau nhw’n teithio o un wlad i’r llall yn Ewrop a chlywed yr iaith yn newid yn gyson. Mae sicrhau arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog ar drenau yng Nghymru yn fater o barch sylfaenol i’r Gymraeg. Felly, a fedrwch chi ymrwymo i sicrhau y bydd safonau iaith yn cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth yn y sector drafnidiaeth—safonau sydd wedi bod ar ddesg y Llywodraeth ers bron i flwyddyn, yn anffodus—ac felly mi fyddai cwmnïau fel Great Western Railway yn gallu cynnig gwasanaethau a’r parch y mae siaradwyr Cymraeg yn eu haeddu?
A gaf i ofyn, felly, i’r Gweinidog i ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny?FootnoteLink Maen nhw’n gallu rhoi’r gwasanaeth nawr, wrth gwrs. Mae’r stori wedi cael ei dweud nad yw, mewn rhyw ffordd, yn bosib iddyn nhw ei wneud e—mae e’n hollol bosib iddyn nhw ei wneud e, ac fe ddylen nhw, yn fy marn i. Mae Arriva, wrth gwrs, dros y blynyddoedd, wedi defnyddio’r Gymraeg ar eu trenau nhw er bod y trenau’n mynd i mewn i Loegr; nid ydyn nhw’n newid yr arwyddion ar y trên, yn gorfforol, o achos y ffaith eu bod nhw’n mynd i mewn i Loegr. Felly, na, nid oes rheswm pam na ddylai Great Western Railway ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. Rwy’n credu ei bod yn iawn i ddweud y byddai pobl yn parchu’r ffaith bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio, a byddai diddordeb mawr gan bobl yn Lloegr i glywed yr iaith.