Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Ychydig wythnosau yn ôl, fe ddaeth i’r amlwg na fydd trenau newydd gwasanaeth Great Western Railway, sydd yn gwasanaethu de Cymru, yn cynnwys unrhyw arwyddion na chyhoeddiadau yn y Gymraeg. Fel y disgwyl, roedd yna nifer o gwynion i’r cwmni gan deithwyr, yn dilyn y newyddion yma, yn condemnio’r penderfyniad, gan gynnwys, gyda llaw, gan gyn-Weinidog y Gymraeg, Alun Davies. Esgus y cwmni oedd bod y trenau hyn yn gwasanaethu ardaloedd yn Lloegr hefyd, ac felly na fuasai defnyddio arwyddion a gwneud cyhoeddiadau dwyieithog yn addas. Yn ddiddorol, mae rhai teithwyr yn Lloegr wedi mynegi cefnogaeth i gael y Gymraeg yn Lloegr, gan sôn am eu profiadau nhw’n teithio o un wlad i’r llall yn Ewrop a chlywed yr iaith yn newid yn gyson. Mae sicrhau arwyddion a chyhoeddiadau dwyieithog ar drenau yng Nghymru yn fater o barch sylfaenol i’r Gymraeg. Felly, a fedrwch chi ymrwymo i sicrhau y bydd safonau iaith yn cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth yn y sector drafnidiaeth—safonau sydd wedi bod ar ddesg y Llywodraeth ers bron i flwyddyn, yn anffodus—ac felly mi fyddai cwmnïau fel Great Western Railway yn gallu cynnig gwasanaethau a’r parch y mae siaradwyr Cymraeg yn eu haeddu?