Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Prif Weinidog, ers creu ardal fenter Glynebwy, gwariwyd £94.6 miliwn i greu, diogelu neu gynorthwyo dim ond 390 o swyddi. Ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yw'r rhain. Felly, mae hynny'n gost o tua £0.25 miliwn fesul swydd. O gofio mai creu swyddi yw elfen allweddol ardaloedd menter, mae'r ffigurau hyn yn dangos i mi bod lefel enfawr o fuddsoddiad nad yw wedi bod yn werth da am arian. A all Cymru fforddio pum mlynedd arall o fuddsoddi ar y fath raddfa i gael y math o enillion yr wyf i wedi eu hamlygu?