– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar arweinydd y Tŷ—Julie James.
Diolch, Llywydd. Nid yw'n syndod bod newidiadau lluosog wedi'u gwneud i fusnes yr wythnos hon. Bydd y dadleuon ar y rheoliadau gwasanaethau a reoleiddir ac adroddiad blynyddol 2016-17 Comisiynydd Plant Cymru, a oedd i fod i gael eu cynnal ddydd Mawrth diwethaf, yn cael eu cynnal y prynhawn yma. Mae'r dadleuon ar Orchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 a mynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau wedi eu gohirio tan yr wythnos nesaf. Rwyf hefyd wedi gohirio'r ddadl Cyfnod 3 ar diddymu'r Bil Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) tan 28 Tachwedd. Bydd cwestiynau a gyflwynwyd ar gyfer eu hateb yr wythnos diwethaf gan yr ysgrifenyddion addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu derbyn yfory, a bydd cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a'r Cwnsler Cyffredinol yn symud i'r wythnos nesaf.
Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd y ddadl Aelodau a'r ddadl fer a ohiriwyd o'r wythnos diwethaf yn cael eu cynnal yfory, gyda dadl y Ceidwadwyr Cymreig a dadl y pwyllgor ar seilwaith digidol yn cael eu gohirio tan ddydd Mercher nesaf.
Dangosir busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod, sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ddechrau drwy longyfarch Julie James ar gael ei phenodi'n Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip? Ac a gaf i ddweud pa mor falch yr wyf i o gael y cyfle cyntaf ers i mi gael fy ethol i'r Cynulliad hwn ym 1999, i ofyn cwestiwn mewn gwirionedd? Felly, roeddwn i'n benderfynol fy mod i'n mynd i fynd ati ar unwaith.
A gaf i ofyn ichi, Arweinydd y Tŷ, os gallech chi ymateb i ffigurau diweddaraf Ymddiriedolaeth Trussell, sy'n dangos cynnydd o 13 y cant yn y defnydd o fanciau bwyd rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni—2017—o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd? Mae'r banc bwyd ym Mro Morgannwg wedi sôn am sefyllfa druenus mam yr oedden nhw wedi ei helpu'n ddiweddar, a chanddi bump o blant, a dim bwyd ar ôl ar ddydd Gwener. Dywedodd yr adran Gwaith a Phensiynau na allen nhw helpu tan yr wythnos ganlynol. A allwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y sylwadau sy'n cael eu gwneud i ohirio cyflwyno'r credyd cynhwysol, o gofio bod y banciau bwyd mewn ardaloedd y mae credyd cynhwysol wedi'i gyflwyno'n llawn, wedi gweld cynnydd cyfartalog o 30 y cant yn y galw?
Wel, a gaf i ddweud pa mor falch yr wyf i fy mod i wedi cael fy nghwestiwn cyntaf gan fy rhagflaenydd yn y swydd, sydd yn esiampl wych i mi ei dilyn? A gaf i ddweud hefyd, pa mor hynod ddiolchgar yr wyf i am yr holl gyngor a chefnogaeth y mae hi wedi ei roi i mi ar hyd y blynyddoedd, ac, yn wir, dros y pythefnos diwethaf, sydd wedi bod o wir gymorth, ar adeg sydd wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, gan gynnwys teulu Carl Sargeant?
O ran ffigurau Ymddiriedolaeth Trussell, rwyf yn llwyr gydnabod y mater hynod bwysig y mae'r Aelod yn ei godi. Mewn ardaloedd lle y mae credyd cynhwysol wedi ei gyflwyno, rydym ni'n gweld cynnydd gwirioneddol o ran bod pobl mewn trafferthion, ac rydym ni wir yn galw ar Lywodraeth y DU i ailedrych ar yr oedi o chwe wythnos sy'n gallu digwydd weithiau. Mewn gwirionedd, rwyf wedi gweld wyth wythnos o oedi hefyd, o ran pobl yn cael gafael ar yr arian y mae ganddyn nhw'r hawl iddo. Ac wn i ddim sut y mae disgwyl i bobl ymdopi heb gael yr arian yna ac rydym ni wir yn annog Llywodraeth y DU i edrych ar hynny eto.
Yn dilyn y ddadl Cyfarfod Llawn ar ddiwygiadau lles a chredyd cynhwysol Llywodraeth y DU, fe ysgrifennodd y Gweinidog Tai ac Adfywio at Lywodraeth y DU i fynegi pryderon y Cynulliad, ac i alw am roi'r gorau i gyflwyno'r credyd cynhwysol. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog newydd, pan fydd hi wedi dechrau ar ei phortffolio, yn gwneud rhywbeth tebyg iawn.
Mae'r dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid ar ran Llywodraeth Cymru yn dangos y bydd aelwydydd yng Nghymru yn colli tua £460 y flwyddyn, neu 1.6 y cant o'u hincwm net, ar gyfartaledd, os bydd yr holl ddiwygiadau trethi a budd-daliadau a gynlluniwyd i gael eu cyflwyno gan Lywodraeth flaenorol y DU, rhwng 2015-16 a 2019-20, yn cael eu gweithredu mewn gwirionedd. Felly, rydym yn mawr obeithio y bydd y Canghellor yn newid ei feddwl ynglŷn â hynny.
Gwyddom y bydd teuluoedd incwm is, yn enwedig y rhai hynny sydd â phlant, yn colli cryn dipyn yn fwy ar gyfartaledd—tua 12 y cant, mewn gwirionedd, o'u hincwm net. Ac mae teuluoedd mawr, wrth gwrs, yn cael eu heffeithio'n arbennig o ddifrifol, gan golli oddeutu £7,750 flwyddyn, neu 20 y cant o'u hincwm net ar gyfartaledd. Ac mae hyn yn gwbl gywilyddus mewn gwlad mor gyfoethog â'n gwlad ni, ac yn sicr, rydym ni'n annog Llywodraeth y DU i ailystyried ei strategaethau lles.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, rydym ni'n darparu pob cymorth y gallwn ni. Rydym yn parhau i ddarparu rhyddhad yn ôl disgresiwn lle bo modd, mae ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn helpu, mae ein rhaglenni Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg o gymorth mawr, mae'r grant datblygu disgyblion, wrth gwrs, yn cynorthwyo ein hysgolion i helpu plant o deuluoedd sydd yn cael eu heffeithio'n arbennig o wael, ac yn wir rydym yn falch iawn o'n hymgyrch i atal newyn yn ystod gwyliau'r ysgol, y gwnaethom ei gefnogi y llynedd, ac y gwn bod llawer o'r Aelodau yn y Siambr wedi'i gefnogi'r bersonol hefyd.
Rwyf yn llongyfarch y Gweinidog hefyd ar ei swydd newydd o fod yn arweinydd y tŷ, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n gwneud y gwaith yn well—neu'r union yr un fath—â'i rhagflaenydd.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â'r oedi o ran gwneud y rhan ddwyreiniol o ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465, yn ffordd ddeuol yn fy rhanbarth i? Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorchymyn adolygiad o'r prosiect hwn sydd werth £220 miliwn, ac mae pryderon wedi eu mynegi ei fod yn mynd i gostio mwy na'r gyllideb ac y bydd yn hwyr. Yn y cyfamser, mae busnesau lleol yn dioddef o ganlyniad i'r oedi hwn, ac mae rhai wedi mynegi pryder ynghylch eu hyfywedd yn y dyfodol, ac mae busnesau yn pryderu'n fawr am yr oedi hwn, a'r holl lol sy'n mynd ymlaen yn y fan yna.
A gaf i ofyn am ddatganiad brys ar y mater hwn, a allai gael effaith drychinebus ar yr economi yn fy rhanbarth i, os gwelwch yn dda?
Wel, diolch i chi am y cwestiwn pwysig iawn yna ac am eich sylwadau caredig ar y dechrau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhyddhau datganiad ysgrifenedig ar y cynnydd yn gymharol ddiweddar, ond byddaf yn gofyn iddo edrych eto ar y mater hwn yng ngoleuni eich sylwadau chi.
Hoffwn i hefyd groesawu Julie James i'w rôl newydd a'i llongyfarch hi ar ei phenodiad a hefyd diolch i Jane Hutt am y ffordd y mae hi wedi delio â phob plaid yn y Siambr yma dros nifer fawr o flynyddoedd ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y traddodiad yna yn parhau.
Mae gennyf gwpwl o gwestiynau i'w gofyn i Julie James. Yn gyntaf oll, rwy'n sylwi, yn wahanol i'ch rhagflaenydd, mae gennych ddyletswyddau eraill fel arweinydd y tŷ, o gwmpas seilwaith a thrais yn erbyn menywod, ac ati. Byddwn yn leicio gwybod ym mha ffordd y bydd Aelodau'r Cynulliad yn gallu gofyn cwestiynau i chi yn rhinwedd y cyfrifoldebau gweinidogol yma yn hytrach nag yn rhinwedd eich cyfrifoldebau fel arweinydd y tŷ. Byddwn yn leicio i chi gadarnhau sut mae hynny'n mynd i ddigwydd.
Yn ail, hoffwn i wybod a yw e'n fwriad gan y Llywodraeth, heddiw, i gyhoeddi datganiad ynglŷn â gwasanaethau plant Cyngor Sir Powys. Heddiw yw'r ugeinfed diwrnod ar ôl i'r ymchwiliad gael ei wneud gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Maen nhw i fod i gyhoeddi eu cynllun gwella heddiw ac mae hynny wedi cael ei gadarnhau i mi gan yr arolygiaeth ddoe. Nid wyf i wedi gweld dim byd yn cael ei gyhoeddi eto. Byddwn yn leicio gwybod a ydy'r Llywodraeth wedi derbyn unrhyw gynllun gwella erbyn hyn ac a fydd y Llywodraeth yn gwneud datganiad gerbron y Cynulliad neu yn ysgrifenedig ar y cynllun, er mwyn inni ddeall a ydy e'n ddigon da, a oes modd inni ei wella e, ac a ydy'r Llywodraeth yn mynd i gymryd camau pellach i fynd i'r afael â'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghyngor Sir Powys.
Yn olaf, os caf dynnu sylw arweinydd y tŷ at y cynnig heb ddiwrnod rhif 6563 sydd yn f'enw i. Mae'r cynnig yn delio â pherthynas Cymru a Chatalwnia ac yn delio â beth sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar yn y wlad honno. Rydym yn gwybod bod Llywydd Catalwnia—Llywydd Senedd Catalwnia—wedi bod yn y carchar am rai oriau, bod yna nifer o Weinidogion yn y carchar o hyd, a bod Prif Weinidog Catalwnia wrth gwrs yn gorfod delio â'r sefyllfa o wlad arall, yng Ngwlad Belg. Mae'n amlwg bod gan nifer o Aelodau fan hyn ddiddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yng Nghatalwnia ac yn arbennig o safbwynt un Senedd i Senedd arall, heb sôn am a ydych chi o blaid neu yn erbyn y penderfyniad gwleidyddol, beth mae Senedd wrth Senedd yn gallu siarad â'i gilydd. Ac, felly, gan fod y cynnig wedi ei osod, a fydd y Llywodraeth yn gwneud amser, hyd yn oed 30 munud, i'r cynnig yma gael ei drafod yn y Cynulliad?
Wel, diolch yn fawr iawn am eich sylwadau caredig ar y dechrau ac am y gyfres yna o gwestiynau.
O ran yr un cyntaf, sef yn sicr yr hawsaf ohonyn nhw i'w ateb ar eich diwrnod cyntaf yn y swydd, yw y byddwn ni'n darparu sesiwn hawl i holi yn y ffordd arferol, i mi gael fy holi ynghylch cyfrifoldebau'r portffolio, a bydd Aelodau'r Cynulliad yn cael cyfle i gyflwyno eu cwestiynau yn y ffordd arferol. Mae'r Llywydd a minnau eisoes wedi trafod posibilrwydd hynny, a bydd honno'n ffordd hollol syml o wneud hynny.
O ran y ddau arall: Mae'r Gweinidog newydd sydd â chyfrifoldeb dros blant yn eistedd yn y Siambr, ac rwy'n credu ei fod wedi clywed eich sylwadau a bydd yn gallu bwrw ymlaen â nhw ar frys a bydd yn ein harwain ni drwy'r adroddiad blynyddol cyn bo hir. Felly, rwy'n siŵr y bydd ef yn gallu ymdrin â hynny. O ran y trydydd cwestiwn, y gwir plaen amdani yw, ar fy niwrnod cyntaf yn y swydd hon, nad oes gennyf unrhyw fath o syniad. Er hynny, rwy'n addo trafod hyn gyda'r bobl sy'n gyfrifol am fusnes y Llywodraeth ac rhoi ateb i'r Aelod maes o law.
Hoffwn innau hefyd groesawu arweinydd newydd y tŷ i'w swydd newydd. Mae ei swydd, fel y gwyddom, o ganlyniad i ad-drefnu tra sylweddol. Yr hyn yr hoffem ni yn UKIP ofyn amdano, yw datganiad ar beth yw costau amcanol yr ad-drefnu hwn i'r pwrs cyhoeddus. Mae'n ad-drefnu eithaf mawr. O'r hyn a ddywedwyd, mae nifer y Gweinidogion wedi cynyddu o 12 i 14. O gofio y bydd cost o ran dewiniaid delwedd, yn ogystal â'r cyflogau Gweinidogol ychwanegol, a allwn ni gael esboniad o'r angen am y swyddi ychwanegol a'r costau ychwanegol rhagamcanol, ac o ble y daw'r arian ychwanegol hwnnw o ran cyllideb Llywodraeth Cymru? Diolch.
Mae gan y Prif Weinidog yr hawl llwyr i drefnu'r Llywodraeth hon fel y gwêl orau ac mae wedi gwneud hynny.
A gaf i groesawu arweinydd newydd y tŷ i'w swydd, a hefyd diolch i Jane Hutt am y ffordd ddiflino a manwl y mae wedi ateb cwestiynau yn y sesiwn hon, a'r cymorth mawr y mae hi wedi ei roi y tu mewn a'r tu allan i'r Siambr? A allai arweinydd y tŷ drefnu bod y Gweinidog dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn gwneud datganiad am y cynnydd o ran yr ymchwiliad i'r sgandal gwaed halogedig? Rwy'n credu bod pob un ohonom ni yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn San Steffan wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad statudol o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005 yn cael ei gynnal. Gwyddom mai Swyddfa'r Cabinet fydd yn cynnal yr ymchwiliad, ond nid ydym yn gwybod eto pwy fydd yn cadeirio'r ymchwiliad, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allai'r Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol adrodd ar unrhyw gysylltiad y mae ef wedi'i gael gan y Llywodraeth yn San Steffan, a pha un a fydd y llywodraeth honno yn ymgynghori ag ef neu ba un a fydd ef yn unrhyw ran o'r penderfyniadau a wneir ynghylch pwy fydd yn arwain yr ymchwiliad hwn, a groesewir gan gynifer o bobl yma yng Nghymru.
Diolch i chi am y sylwadau caredig yna, a hoffwn innau ailadrodd y sylwadau am fy rhagflaenydd, Jane Hutt, yr wyf yn hynod o ddiolchgar iddi, yn bersonol, am ei chyngor dros y blynyddoedd. Gwn fod yr Aelod wedi gweithio'n ddiflino yn yr ymgyrch hon i sefydlu'r ymchwiliad hwn, a thalaf deyrnged i'w hymdrechion yn hynny o beth. Wrth gwrs rydym ni hefyd yn falch bod yr ymchwiliad yn cael ei roi ar sail statudol, a hynny i raddau helaeth o ganlyniad i'w hymdrechion hi ac ymdrechion ei grŵp trawsbleidiol o ran mynegi barn pobl Cymru. Rydym yn cytuno y dylai'r ymchwiliad gael ei arwain gan uwch farnwr, ac y dylai'r cylch gorchwyl fod mor eang â phosibl i sicrhau ein bod yn cael yr holl atebion y mae pobl eu heisiau. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn falch o ddod yn ôl a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bydd ganddo unrhyw beth i'w adrodd. Nid wyf yn siŵr mewn gwirionedd pa un a oes ganddo unrhyw beth newydd i'w adrodd eto. Rwy'n siŵr y bydd yn gwneud hynny cyn gynted ag y bydd ganddo rywbeth i'w adrodd.
Diolch. Yn olaf, Nick Ramsay.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd eich llongyfarch, arweinydd y tŷ, ar eich penodiad—haeddiannol—a hefyd llongyfarch Jane Hutt ar ei haraith gyntaf yn y Siambr hon fel AC y meinciau cefn? Rwyf yn siŵr y bydd gennych lawer mwy, a gyrfa hir fel aelod o'r meinciau cefn.
Hoffwn gefnogi Mohammad Asghar yn ei sylwadau yn gynharach am yr A465, yn benodol rhwng Gilwern a Bryn-mawr. Bûm mewn cyfarfod trigolion yn ddiweddar—rwyf yn gweld yr Aelod dros ben arall ceunant Clydach hefyd yn gwenu arnaf—bûm mewn cyfarfod yn ddiweddar, ac er bod llawer o gefnogaeth i'r prosiect, a chefnogaeth wych ar gyfer datblygu'r darn hwn o'r ffordd, ceir pryderon ynghylch y diffyg ymgynghori rhwng Costain, y datblygwyr, a thrigolion lleol. Bu achlysuron pan gafodd y ffyrdd eu cau heb yr hysbysiad statudol, a hefyd adegau pryd y gwnaed newidiadau dylunio i'r darn hwnnw o'r ffordd, heb ddigon o ymgynghori. Felly, a allem ni gael datganiad gan Lywodraeth Cymru, gan yr Ysgrifennydd Cabinet sy'n gyfrifol, yn amlinellu sut y mae ef yn gwneud yn siŵr bod y prosiect hwn yn dilyn y trywydd cywir, a bod trigolion lleol yn cael eu cynnwys yn llawn ym mhob cam o'r broses?
Diolch am hynna, a diolch i chi am eich sylwadau caredig hefyd. Mae'r darn rhwng Gilwern a Bryn-mawr sydd wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith yng Nghymru. Mae Gorchmynion Drafft a datganiad amgylcheddol ar gyfer y darn rhwng Dowlais Top a Hirwaun wedi eu cyhoeddi'n ddiweddar, a gallai'r rhain arwain at ymchwiliad cyhoeddus yn y gwanwyn a dechrau'r gwaith ar ddiwedd 2019. Fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet siarad yn y Siambr hon yn ddiweddar am yr A465, ond rwy'n siŵr y bydd ef a'i swyddogion hefyd wedi clywed y pwyntiau penodol iawn yr ydych chi wedi eu codi, a bydd yn gallu ymdrin â nhw maes o law.
Mae'n ddrwg gennyf, ni ddylwn fod wedi cael y gwyliau hanner tymor yna. Yn olaf, yn olaf, felly, y tro hwn—wel, bellach mae dau o bobl sy'n mynd i neidio i fyny yn y fan yma. Yn olaf, yn olaf, yn olaf, felly, Darren Millar.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd eich croesawu chi i'ch swydd newydd a thalu teyrnged i'ch rhagflaenydd? A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn gais am ddiweddariad ar y mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ yn ymwybodol o'r ffaith y cyhoeddwyd adroddiad diweddaru yr wythnos diwethaf am y sefyllfa yn dilyn sgandal Tawel Fan yn y Bwrdd, ac yn anffodus mae'n ymddangos y bu mwy o oedi i'r gwaith dilynol a gynhaliwyd yn y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd, ac na fydd adroddiadau bellach yn cael eu cyhoeddi tan fis Mawrth nesaf, oddeutu tair blynedd a hanner ar ôl cyhoeddi'r adroddiad cyntaf a roddwyd ar gael i'r Bwrdd Iechyd hwnnw. Yn amlwg, mae'r teuluoedd yn ceisio cael rhyw fath o ateb i'r problemau y maen nhw wedi eu profi, ac wrth gwrs y mae'r staff angen rywfaint o ddatrysiad hefyd o ran eu swyddi. Yn wir, mae rhai aelodau staff wedi symud ymlaen ac o bosibl efallai wedi dianc rhag cyfiawnder naturiol. Felly, tybed a allwn ni gael y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater arbennig hwnnw.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd a materion gwledig ar y grant amgylchedd sengl? Mae pryderon wedi eu cyfleu i mi, gan awdurdodau lleol Conwy a Sir Ddinbych, ynghylch brigdorri'r grant hwn a'r lleihad yn ei werth eleni a'r effaith y gallai hynny ei gael ar eu gwasanaethau casglu sbwriel a gwastraff yn arbennig. Rwy'n deall bod y gostyngiadau tua tair gwaith y gostyngiad o'i gymharu â grant y llynedd ac mae hynny'n peri cryn dipyn o bryder iddyn nhw. Felly, byddai'n dda cael trafodaeth ar hynny a chyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch sail resymegol hynny.
Diolch. O ran Tawel Fan, mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Donna Ockenden yn ysgrifennu'r adroddiad ar hyn o bryd ac rwyf wedi cadarnhau na chaiff y gwaith ei gwblhau cyn dechrau'r flwyddyn nesaf. Mae'r amserlen sydd wedi ei chyhoeddi yn adlewyrchu hynny, felly rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dod yn ei ôl atom ni pan fydd y gwaith hwnnw wedi ei wneud. Rwyf i o'r farn y dylid caniatáu i'r gwaith hwnnw gael ei gyflawni cyn i hynny ddigwydd.
O ran grant amgylchedd i awdurdodau lleol, cafodd awdurdodau lleol ryddhad sylweddol iawn o ran eu harian eleni gyda llawer o'r symiau a neilltuwyd o'r blaen yn cael eu diddymu er mwyn rhoi rhwydd hynt iddyn nhw i allu rheoli eu harian eu hunain. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog newydd dros Lywodraeth Leol a gwasanaethau cyhoeddus, sydd yn y Siambr i glywed eich sylwadau, yn eu hystyried nhw pan fydd yn annerch y lle hwn gyntaf.
Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ.
Eitem 4 ac eitem 5: Rwy'n cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cymryd y ddau gynnig sydd wedi eu grwpio ar gyfer y ddadl. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes.