Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i groesawu'r Gweinidog newydd i'w swydd? Rwy’n edrych ymlaen at ymgysylltu ag ef ar faterion plant a chydweithio ag ef lle y gallwn ddarganfod rhywfaint o dir cyffredin. Hefyd, hoffwn gofnodi fy nheyrnged i’w ragflaenydd, Carl Sargeant, a’r gwaith a wnaeth ar ran plant yma yng Nghymru. Roedd bob amser yn ddiffuant iawn yn y swyddogaeth honno, ac rwy’n gwybod ei fod yn angerddol am hyrwyddo agenda’r Llywodraeth.
Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r comisiynydd a'i staff. Rwyf wedi cael cyswllt rhagorol gyda'r comisiynydd ers imi gymryd cyfrifoldeb dros y portffolio hwn fy hun, ac rwyf wir yn gwerthfawrogi’r gwaith y mae hi’n ei wneud i ymgysylltu â holl Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr hon o bob plaid wleidyddol, ac, yn wir, y cymorth y mae hi’n ei roi o bryd i'w gilydd gyda darnau unigol o waith achos yn fy etholaeth i lle y ceir materion y credaf eu bod o arwyddocâd cenedlaethol. Mae hi bob amser yn barod iawn i helpu ac mae ei staff bob amser yn gyflym iawn i adrodd yn ôl ac i ymateb i bryderon unigol.
Mae'r adroddiad yn adroddiad eang iawn. Mae'n sôn am bob math o wahanol faterion, ond hoffwn ganolbwyntio ar ambell un, os caf. Un o'r pethau y mae’r comisiynydd plant ac, yn wir, y comisiynwyr o’i blaen wedi bod â diddordeb mawr mewn gweld yn cael ei sefydlu yng Nghymru yw gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf i gynnwys partneriaid o awdurdodau lleol, rwy'n meddwl, er mwyn gallu cyflwyno’r gwasanaeth eiriolaeth cenedlaethol hwnnw a sicrhau bod eiriolaeth o ansawdd uchel ar gael yn gyson yma yng Nghymru i’r plant sydd ei angen. A tybed, Weinidog, a fyddwch chi'n gallu rhoi diweddariad inni heddiw ar ble yn union mae’r broses o gyflwyno’r gwasanaeth hwnnw, a beth yw’r sefyllfa bresennol, oherwydd rwy’n gwybod bod hyn yn bryder yn sicr i bobl yn fy etholaeth i, a phan edrychwch chi ar nifer cynyddol y bobl ifanc sy’n ffonio’r comisiynydd a'i thîm, mae'n briodol, rwy’n meddwl, bod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn datrys y mater hwn unwaith ac am byth fel na fydd yn rhywbeth sy’n ailadrodd ac na fyddwn yn cael y teimlad hwn o déjà vu ym mlynyddoedd y dyfodol pan gaiff yr adroddiadau hyn eu cyflwyno.
Mae'r comisiynydd hefyd, wrth gwrs, yn cyfeirio at gostau trafnidiaeth gyhoeddus yn ei hadroddiad blynyddol. Mae hi'n sôn yn benodol am drafnidiaeth ôl-16 a’r baich y gall hynny ei roi ar blant a phobl ifanc. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod fy mhlaid wedi ceisio cynnig ateb i hynny, ateb yr ydym yn ei gynnig i’r Llywodraeth yn ddiffuant gan obeithio y byddwch yn ei archwilio ac yn bwrw ymlaen ag ef, oherwydd rydym yn credu bod cyfle i’n cynnig cerdyn gwyrdd wneud gwahaniaeth go iawn i bobl ifanc ledled Cymru ac y byddai'n helpu i ddatrys yr union fater y mae'r comisiynydd plant wedi ei nodi yn ei hadroddiad am y gost, yn enwedig o ran teithio ar fysiau, i blant a phobl ifanc. Nawr, rwy’n gwybod, Weinidog, bod Llywodraeth Cymru wrthi’n adolygu'r canllawiau cludiant o'r cartref i'r ysgol a roddir i awdurdodau lleol, ac, unwaith eto, tybed a allwch roi diweddariad inni am hynny, yn enwedig o ran darpariaeth ôl-16, ac efallai y gallwch ddweud wrthym hefyd a ydych ci nawr yn mynd i ystyried o ddifrif, o ystyried yr argymhelliad yn adroddiad y Comisiynydd, ein cynigion cerdyn gwyrdd.
Tybed hefyd a fyddech chi'n barod i ystyried adolygu pwerau’r comisiynydd a'i swyddfa. Cynhyrchodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad nifer o flynyddoedd yn ôl i gymharu’r gwahanol ddulliau o ran comisiynwyr sydd gennym yng Nghymru a’r diffyg cysondeb sydd gennym gyda hwy o ran eu prosesau penodi ac, yn wir, o ran ystodau eu pwerau. A tybed hefyd a yw hynny, gan weithio gyda'ch cyd-Weinidogion yn y Llywodraeth, yn rhywbeth y gallech fod yn fodlon bwrw ymlaen ag ef. Does dim sôn penodol amdano yn adroddiad y comisiynydd, ond rwy’n gwybod ei bod yn bwysig iawn bod gennym gomisiynwyr â dannedd fel y gallant ddangos y dannedd hynny neu frathu pobl o bryd i'w gilydd a chael ymateb priodol gan y gwahanol asiantaethau cyhoeddus a rhannau o'r sector cyhoeddus y mae angen yr ymateb hwnnw ganddynt.
Ac yn olaf, hoffwn gofnodi hefyd fy ngobeithion y bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn symud drwy’r Cynulliad hwn yn fuan iawn. Yn amlwg, bydd cyfnod 3 y Bil hwnnw yn digwydd yr wythnos nesaf. Un o'r gwelliannau pwysicaf y mae angen eu gwneud i’r Bil hwnnw o hyd yw cyfeirio ar wyneb y Bil at egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant. Ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn ar wyneb y Bil hwnnw, a tybed a allwch chi ddweud wrthym beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud fel ymateb i rai o'r gwelliannau hynny sydd wedi’u cyflwyno sy'n ceisio sicrhau cyfeiriad at y rheini ar wyneb y ddeddfwriaeth honno. Diolch.