Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 14 Tachwedd 2017.
A gaf innau hefyd longyfarch y Gweinidog ar ei benodiad, ac a gaf i hefyd ategu y sylwadau a wnaeth e ynglŷn â chyfraniad ei ragflaenydd? Rwy'n gwybod bod Carl Sargeant yn delio â materion yn ymwneud â hawliau plant o'r galon, ac os bydd y Gweinidog presennol yn ymwneud â'i rôl gyda'r un arddeliad yna rwy'n sicr y bydd sefyllfa plant yng Nghymru yn cryfhau ac yn dal i wella.
A gaf innau hefyd ategu'r diolch i'r comisiynydd am ei gwaith? Rydw i'n croesawu'r adroddiad. Fel pob blwyddyn efallai, mae e yn gyfle i'n hatgoffa ni o flaenoriaethau plant a phobl ifanc ac efallai yn gyfle i ailfiniogi meddwl y Llywodraeth o gwmpas materion plant ac i adnewyddu ffocws ar y blaenoriaethau sydd angen eu hystyried yn unol, wrth gwrs, â dymuniad plant a phobl ifanc eu hunain trwy'r hyn sydd yn adroddiad y comisiynydd.
Y ffactor mwyaf siomedig i fi yn yr adroddiad yma yw bod yna gynifer o faterion a godwyd y llynedd sydd dal heb fynd i'r afael â nhw yn ddigonol ym marn y comisiynydd. Byddwch chi'n gwybod, os ydych chi wedi edrych ar yr adroddiad, bod y comisiynydd yn nodi system golau traffig coch, melyn a gwyrdd. Mae yna nifer o eitemau sydd yn goch sy'n dangos nad oes yna gynnydd o gwbl wedi bod. Nawr, un o'r rheini yw addysg gartref. Yr argymhelliad o'r adroddiad llynedd oedd y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau’r gofynion i rieni gofrestru fel rhai sydd wedi dewis addysgu eu plant gartref a bod pob plentyn sy’n cael ei addysgu gartref trwy ddewis yn gweld gweithiwr proffesiynol o leiaf unwaith y flwyddyn er mwyn iddyn nhw fedru mynegi barn am eu profiadau addysgol.
Nawr, mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, wedi bod yn ystyried y maes yma mewn gwahanol ffyrdd dros nifer o flynyddoedd erbyn hyn. Mae yna ganllawiau wedi'u hailgyflwyno ychydig yn ôl, ond mae cyflwyno cofrestr a gofynion statudol mwy cadarn i sicrhau bod plant yn cael eu gweld a bod rhywun yn siarad â nhw yn dal yn flaenoriaeth i'r comisiwn ac, wrth gwrs, fel y mae'r adroddiad yn nodi, yn dal i aros i'r Llywodraeth weithredu yn ddigonol arnyn nhw. Yn ddelfrydol, mi fyddwn i'n lico clywed heddiw, wrth gwrs, ble mae'r Llywodraeth yn mynd ar hyn. Pryd welwn ni weithredu? Beth yw eich bwriad chi yn y maes penodol yma? Ond, yn dilyn yr hyn ddywedoch chi yn gynharach ynglŷn â bwriad y Prif Weinidog i ymateb erbyn diwedd y mis, byddwn i'n llawn obeithio y bydd yna gyfeiriad penodol at y maes yma ac y bydd yna ddatgan bwriad clir o safbwynt beth mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud ynglŷn â hyn.
Mater arall sydd wedi'i nodi'n goch, wrth gwrs, yw tlodi plant. Rŷm ni'n gwybod bod plant yn wynebu effeithiau mesurau llymder ar incwm eu rhieni yn ogystal â thaliadau'r pen arall o safbwynt y gwasanaethau sydd ar gael i helpu i liniaru tlodi fel ag y maen nhw'n cael eu torri ar hyn o bryd. Nawr, rŷm ni wedi codi'n flaenorol yr angen, wrth gwrs, i gael strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â thlodi plant. Yn ôl yr Institute for Fiscal Studies, mae toriadau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i fudd-daliadau yn debygol o achosi cynnydd o 4 y cant yn nhlodi plant ledled y Deyrnas Gyfunol, gyda Chymru'n cael ei heffeithio yn anghymesur â phroblemau, yn enwedig yn sgil credyd cynhwysol, sy'n un rheswm am hynny. Mae rhai o'r newidiadau i gredyd treth a thoriadau i fudd-daliadau wedi cael eu gweithredu'n barod, wrth gwrs, ac wedi cael effaith anghymesur ar blant, yn enwedig plant mewn teuluoedd rhiant sengl neu deuluoedd gyda mwy na dau blentyn. Felly, mae'n bwysicach nac erioed, rydw i'n meddwl, bod cynllun yn ei le i fynd i'r afael â hyn.
Mae hefyd yn ddiddorol—un pwynt diddorol a dilys iawn sy'n cael ei godi gan y comisiynydd yw y dylid cynnig darpariaeth o 30 awr yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel ar gyfer pob plentyn sy'n dair neu'n bedair oed, yn hytrach na dim ond ar gyfer teuluoedd lle mae'r rhieni yn gweithio. Nawr, dyna, wrth gwrs, oedd union bolisi Plaid Cymru yn yr etholiad diwethaf, gyda'r rhesymeg fel y mae'r comisiynydd yn ei amlinellu. Y perig yw y bydd rheini lle nad yw eu rhieni nhw'n gweithio, sydd â mwy o risg efallai o syrthio ar ei hôl hi o safbwynt addysg—y risg yw y byddan nhw'n syrthio hyd yn oed yn bellach ar ei hôl hi os yw eraill yn cael y gefnogaeth ychwanegol. Nawr, rwy'n deall bod yna ffocws cryf wedi bod ar rieni yn gweithio a sicrhau bod rhieni yn gallu gweithio mwy o oriau, o bosibl, yn sgil y ddarpariaeth, ond mi ddylai'r prif ffocws, wrth gwrs, fod ar y plant. Hynny yw, gorau oll os oes yna ganlyniad positif i rieni yn sgil hynny, ond y plant ddylai fod yn ganolog i'r polisi yma ac mi fyddwn i'n dadlau yn gryf o blaid yr hyn y mae'r comisiynydd wedi galw amdano fe. Mi fyddwn i'n hoffi clywed, felly, yn sgil hynny, cadarnhad, o bosibl, mai bwriad y Llywodraeth yn y tymor hirach yw sicrhau bod y ddarpariaeth yma ar gael i bob plentyn.