– Senedd Cymru am 4:57 pm ar 14 Tachwedd 2017.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y cynnig.
Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar y papur trefn.
Nid oes siaradwyr ar yr eitem yma, felly y cwestiwn sy'n weddill yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.