Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg — Gohiriwyd o 8 Tachwedd – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 15 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:50, 15 Tachwedd 2017

Felly, efallai y bydd yn rhaid ichi adolygu'r targedau sydd yn y strategaeth 'Cymraeg 2050'.

Yn y ddogfen 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl 2017-21', mae yna awgrym na fydd disgyblion yn sefyll y cymhwyster Cymraeg cyfun newydd, a fydd yn disodli Cymraeg ail iaith, tan 2026 ar y cynharaf. Mae hynny'n fater o bryder mawr, oherwydd mae'n gwrthddweud yr hyn a ddywedwyd yn y Siambr yma. Ar 28 Medi 2016, gofynnais i Weinidog y Gymraeg ar y pryd, Alun Davies:

'A allech chi gadarnhau...y byddwch chi yn disodli’r cymhwyster Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster Cymraeg ac mai hwnnw fydd pob disgybl yn ei ddefnyddio erbyn 2021?'

Fe atebodd y Gweinidog:

'Mi fydd y cymhwyster Cymraeg ail iaith yn cael ei ddisodli yn y ffordd yr ydych chi wedi’i awgrymu yn 2021.'

Ar dudalen 20 y ddogfen 'Cenhadaeth ein Cenedl', mae'n dweud y bydd addysgu'r cymwysterau TGAU newydd am y tro cyntaf yn dechrau yn 2024-25, sy'n awgrymu y bydd yn rhaid aros tan 2026-27 nes bod un cymhwyster Cymraeg yn cael ei sefyll gan bob disgybl. Mae hyn yn gwbl groes i'r hyn ddywedodd y Gweinidog wrthyf fis Medi 2016, sef y byddai un cymhwyster Cymraeg newydd yn disodli Cymraeg ail iaith erbyn 2021.

A ydych chi'n cytuno ei bod hi'n hollol annerbyniol fod cenhedlaeth arall o blant yn cael ei hamddifadu o'r gallu i siarad Cymraeg yn rhugl oherwydd arafwch y Llywodraeth yma?